top of page

Plastig yn y môr

Plastig- rhan allweddol o fywyd pob dydd miliynau o bobl dros bedwar ban byd. Serch hyn, wrth ei ddefnyddio rydym yn peryglu bywydau miliynau o anifeiliaid a bywyd gwyllt y môr.
Dydy plastig ddim yn hollol wael, caiff ei ddefnyddio fel esgyrn bionig i bobl sy’n dioddef o Arthritis a fel modd i adeiladwyr ddiogelu eu pennau. Ond pan gyrhaedda ein moroedd mae’n peryglu’r holl anifeiliaid sy’n dibynnu ar y môr fel ffynhonnell bwyd. Mae bag plastig yn edrych fel pysgodyn jeli i grwbanod y môr ac wyau pysgod i’r adar. Mae rhwydi yn amgylchynnu a mygu adar, pysgod a mamaliaid y môr a’i gwneud yn anodd, neu hyd yn oed yn amhosib iddynt symud neu fwyta. Wrth i’n defnydd o blastig gynyddu, yr un fydd cynydd perygl yr holl fywyd yma.                              
Dros y degawdau diwethaf rydym ni wedi arllwys tunelli o sbwriel a phlastig i’n moroedd ac o ganlyniad, mae’r plastig wedi treiddio i mewn i’r gadwyn fwyd a’n peryglu ni. Mae plastig yn hynod o niweidiol gan ei fod yn gryf a chadarn, yn arnofio mewn dŵr ac yn cymryd miloedd o flynyddoedd i dorri lawr. Yn ardaloedd mwyaf llygredig ein moroedd mae yna 6 gwaith yn fwy o blasting na phlancton. 6 gwaith! Dyma ffaith anghredadwy sy’n dangos y gwir effaith gawn ni ar ein moroedd. Pam nad ydym yn gwneud rhywbeth i atal hyn?
Wrth i geryntau’r môr gwrdd mae’r crynodiad o blastig yn cynyddu’n sylweddol wrth greu ynysoedd plastig. Yn anffodus, mae 5 brif ynys plastig yn ein moroedd ar hyn o bryd gyda’r mwyaf yn fwy na thalaith Texas. Ym Môr Yr Iwerydd yn unig mae yna 580,000 o ddarnau plastig i bob cilometr sgwar.  Ond y peth gwaethaf amdano yw ei fod yn lladd 100,000 o grwbanod, anifeiliaid ac adar y môr yn flynyddol.
Caiff crwbanod eu darganfod yn nythu mewn poteli plastig, tanwyr sigaretiau a thegannau plant. Hefyd darganfuwyd cywion albatross a laddwyd, yn anfwriadol, gan eu rhieni wrth iddynt fwyta plastig o’r moroedd. Bu farw’r cywion wrth i ddarnau miniog o blastig dyllu eu stumogau neu wrth iddynt newynnu wrth fethu a threulio’r plastig maent wedi bwyta.
Fel gwarchodwyr y blaned fregus hon mae’n rhaid i ni fod yn gyfrifol am ein sbwriel ni. Rhaid i ni gymryd pob cyfle sy’n bosib i wneud ein gorau glas dros yr amgylchfyd a rhywogaethau eraill ein planed. Mae’n rhaid i ni geisio osgoi defnyddio gormodedd o blastig a’i ailgylchu ar bob adeg. Fe allwn ni ofyn am fagiau papur nid plastig mewn siop ac ailgylchu’r bagiau a photeli sydd gennym eisoes. Ein cyfrifoldeb ni yw diogleu byd natur ein moreoedd.
Mae ein moroedd dan eu sang gyda phlastig peryglus ac mae’n annheg ein bod yn gadael i anifeiliaid y byd fyw, a marw, fel hyn. Os na wnawn ni rywbeth fe fydd y sefyllfa ond yn gwaethygu. Mae’n rhaid i ni weithredu gyda’n gilydd i wella’r sefyllfa hunllefus yma sydd yn digwydd ledled y byd o fore gwyn tan nos.

Anifeiliaid y Môr

Cawson ni sgwrs gyda Ffion sy’n gweithio yn acwariwm Bryste. Mae hi’n gweithio’n ddyddiol gyda rhai o greaduriaid harddaf, rhyfeddaf ac mwyaf anghyffredin y byd.


Beth yw dy hoff greadur Ffion?

Crwbanod y môr yn bendant! Maen nhw’n anhygoel! Mae crwbanod y môr yn  byw mewn moroedd cynnes. Maen nhw’n dodwy eu hwyau ar y tir. Mae ganddyn nhw gorff meddal a chragen galed i’w hamddifyn. Daw crwbanod o hyd i’r traeth lle cawson nhw eu geni a chreu twll yn y tywod cyn dodwy eu hwyau. Pan ddaw’r crwbanod bach o’r wyau maent yn mynd yn syth am i’r môr. Anhygoel!


Beth am weithio gyda’r anifeiliaid hyn sy’n dy ryfeddu?

Wel, llawer iawn o bethau. Ond un yw eu cyfrwysdra! Mae gan bysgod driciau clyfar i godi ofn ar bysgod eraill. Mae dreigbysgod yn siglo’u drain hir, gwenwynig i godi ofn ar bysgod eraill.


Enghraifft arall yw os fydd siarc yn gweld pysgodyn ac eisiau ei fwyta, mae’r pysgodyn dreiniog yn chwyddo fel balwn. Gan ei fod yn rhy anodd i’w fwyta, ac wrth gwrs mae agosau at y sbeiciau yn boenus, mae’r siarc yn gadael y pysgodyn i fod ac yn edrych rhywle arall!

Pa anifail sy’n boblogaidd gyda ymwelwyr?

Y pengwiniaid yn sicr! Mae pengwiniaid yn plymio i’r môr i ddal pysgod ac anifeiliaid bach y môr i’w bwyta. Mae pengwiniaid yn gallu nofio yn dda iawn ac mae eu blew yn helpu atal dŵr neu’r oerfel gyrraedd eu crwyn. O ganlyniad i’r ffaith bod pengwiniaid yn byw mewn lle oer iawn, maent yn closio at ei gilydd er mwyn cadw yn dwym ac yn aros yn agos at ei gilydd er mwyn ynysu ei gilydd.


Beth yw un o’r creaduriaid mwyaf pwerus?

Cwestiwn da! Mae'n hysbys bod rhai morfilod lladd yn bwyta gwahanol rywogaethau o bysgod a sgwid fel prif ran eu diet, a gall eraill yfed mamaliaid morol megis morloi, llewod môr, morwyr, pengwiniaid, dolffiniaid a morfilod. Orca ydy enw arall morfil lladd ac maent fel arfer yn byw mewn moroedd dwfn fel y môr Tawel a moroedd y de.


Mae gan lawer o bobl ofn siarcod… Be ydy dy deimladau di?

Dwi’n meddwl eu bod nhw’n anifeiliaid anhygoel a hardd. Mae dros 465 o fathau gwahanol o siarcod yn byw yn ein moroedd heddiw. Maen nhw’n ysglyfaethwyr sy’n agos at ben y cadwyni bwyd morol, ac maent yn rheoli poblogaethau'r rhywogaethau eraill sy’n is lawr na nhw yn y cadwyni bwyd. Mae ymchwil wedi dangos bod gostyngiad enfawr yn niferoedd siarcod yn cael effaith enfawr ar draws ecosystemau'r môr. Dwi’n teimlo’n gryf bod rhaid i ni eu diogelu!


Rho ffaith i ni sydd am ein rhyfeddu ni ta, Ffion!

Does gan slefrod môr ddim ymennydd nac esgyrn! Maen nhw’n edrych fel swigod sy’n hofran yn y môr. Mae gan rai dentalcau sy’n pigo- dyna pam gawson ni i gyd ein rhybuddio i gadw draw odi wrthyn nhw! Mae pysgodyn yn nofio at y tentaclau ac yna yn cael ei bigo sawl gwaith. Mae’r breichiau yna yn symud y bwyd at y geg. Mae gan rhai slefrod dentaclau sydd mor hir a chae pêl-droed!

Be am un ffaith fach arall cyn i ti ein gadael ni?

Mae rhai creaduriaid y môr, fel llyswennod yn hoffi bwyta octopws. Pan fydd ofn ar y octopws mae’n chwistrellu cwmwl o inc er mwyn dianc ar frys. Mae gan octopws wyth braich sy’n gryf iawn ac ar bob un mae llawer o sugnolynau sy’n cynorthwyo’r octopws i ddal bwyd fel pysgod. Mae octopws yn defnyddio ei freichiau fel tentalcau slefrod môr.

Diolch Ffion a phob hwyl gyda’r swydd!

Two Scuba Divers

Ffos Marianna

Ffos Mariana yw’r ardal ddyfnaf yn y môr, ac yn wir yr ardal ddyfnaf ar y ddaear! Lleolir y ffos yn y Môr Tawel, i’r dwyrain o ynysoedd Mariana ger Siapan. 
Crewyd y ffos o ganlyniad i islithriad cefnfor i gefnfor, ffenomena sy’n golygu bod plat sydd â chramen cefnforaidd uwch ei ben yn islithrio o dan blat arall sydd â chramen cefnforol uwch ei ben. Cymedr dyfnder y ffos yw 200km o dan y dŵr.
A wyddoch chi mai’r rhan ddyfnaf o ffos Mariana yw’r “Challenger Deep”? Enwyd y rhan ar ôl y cerbyd a aeth i archwilio’r rhan hon, sef y HMS Challenger II. Mae’r rhan hon yn estyn tua 340 km lawr!! Cafodd y rhan hon ei harchwilio am y tro cyntaf yn 1951. Rhoddodd archwiliad y Challenger y cipolwg cyntaf i ni o fasynau dwfn y cefnfor a nodweddion llawr y cefnfor. Yn ogystal ag archwilio Ffos Mariana casglodd Challenger ddata pwysig am nodweddion a rhywogaethau’r Cefnfor Tawel, Yr Iwerydd a Chefnfor India, gan archwilio yn agos at 130,000 o gilometerau. Darganfuwyd bron i 5000 o rywogaethau newyddyn ystod yr archwiliad dros 4 mlynedd. Gelwir y rhan ddyfnaf yn rhanbarth affwysaidd, ac y mae’n gartref i filoedd o infertebratau a physgod gan gynnwys  cythraul y môr a gafodd yr enw hwn am ei fod yn defnyddio ymwthiad bioymoleuol i ddenu ei ysglyfaeth. Mae’r Challenger Deep yn oer iawn ac o dan wasgedd uchel. Mae ei lawr yn cynnwys agorfau hydrothermal a grewyd wrth i blatiau tectonig ryddhau hydrogen sylffid a mwynau eraill. Gall y tymheredd ger yr agorfau hyn gyrraedd 300 gradd celsiws!
Mae’r ffos yn arbennig am ei bod yn gartref i bysgod ac organebau unigryw, yn ogystal â ffurfiadau morol. Mae’r pysgod hyn yn arbennig oherwydd y modd y maen nhw’n byw ac yn goroesi yn y man dwfn hwn. Mae’r creaduriaid sy’n byw yn y ffos yn nodedig am eu hirhoedledd- gall nifer o’r rhywogaethau fyw ymhell dros gan mlynedd! Mor ddiweddar â mis Mai 2017 darganfuwyd math newydd o fôr-falwen ar ddyfnder o 8,178 o fetrau.
Tybed be gaiff ei ddarganfod yno eleni?

Y Môr

YR HARDDWCH DWFN GLAS

Yn yr adran hon plymiwch dan y dyfroedd gyda ni a dewch i ddysgu am rai o greaduriaid hardd y Môr, y man dyfnaf yn y Môr a'n heffaith ni ar ein moroedd.

Scuba Diver and Corals
Y Môr: About
Y Môr: About
Y Môr: About
Y Môr: About
bottom of page