Cysylltwch â ni!
Oes gennych chi syniad am rywbeth hoffech chi i ni ei gynnwys? Cysylltwch â ni i adael i ni wybod!
Neu anfonwch neges i ni ar ein cyfrif trydar - @c_fflach !
Saith Syfrdanol Steff!
SAITH SYFRDANOL: ADOLYGIAD O’R ARDALOEDD GORAU I YMWELD Â NHW YNG NGHYMRU!
Y mis hwn ces i’r dasg o deithio Cymru er mwyn rhoi fy saith syfrdanol i chi!
Bae Caerdydd/Canolfan y Milleniwm
Mae Bae Caerdydd ym Mhrifddinas Cymru. Prydferthwch naturiol wedi ei greu o amgylch y dŵr. Os ydych yn chwilio am weithgaredd addysgiadol, corfforol, artistig neu gyfuniad o’r tri dyma’r lle i ddod.
Beth am fynd i weld sioe neu berfformiad yng Nghanolfan Y Mileniwm? Mae’r ganolfan yn llawn perfformiadau gwefreiddiol i’ch diddanu â actorion byd-enwog yn teithio i berfformio yma. Syfrdanol yw harddwch yr adeilad modern hwn.
Gellir gweld harddwch naturiol Y Bae drwy fynd ar daith o amgylch yr ardal ar drên bach neu gwch. Mae’r ardal wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wedi creu prydferthwch naturiol dyfnach. Glesni’r dŵr, yr amrywiaeth o adeiladau prydferth hanesyddol megis y Senedd, Amgueddfeydd, Canolfan y Mileniwn heb sôn am y llefydd bwyta. Beth yn fwy sydd ei angen arnoch chi?!
Cyfradd *****
Penrhyn Gŵyr
Taith fer yn unig yn y car o Abertawe, fe welir golygfeydd godidog Penrhyn Gŵyr. Fe’i dynodwyd yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU ym 1956, ac mae’n hyfryd i ddweud nad yw wedi newid llawer ers hynny! Y môr glas, y tywod o aur, a chreigiau llwyd naturiol yn creu ogofau anturus, y llethrau o wyrddni yn llanw pob llygad. Lle godidog heb os nac onibai i fyw ac i ymweld.
Cyfradd *****
Llanfairpwllgwyngyllgogerechwyndrobwyllllandisiliogogogoch
Mae Cymru'n wlad o brydferthwch naturiol syfrdanol, p'un ai ydych chi'n torheulo ar un o'r traethau braf neu'n mynd am dro yn y mynyddoedd mawreddog. Gallwch olrhain hanes y genedl wrth ymweld â henebion ac amgueddfeydd. Mae Cymru'n wlad gyfoes hefyd, ac mae rhywbeth at ddant pawb wrth fynd ar wyliau byr yn un o'r dinasoedd neu wneud campau cyffrous yn yr awyr agored.
Esiampl o hyn heb os nac onibai yw Llanfairpwll, ardal o brydferthwch. Pleser o’r mwyaf yw gallu aros o flaen arwydd enw’r dref hiraf yn Ewrop a mynd a’r daith ar y trên o amgylch gwyrddni naturiol yr ardal.
Os cewch chi gyfle i ymweld ewch da chi!
Cyfradd *****
Castell Caernarfon
Ar ôl galw yn Llanfairpwll beth am wib fechan yn y car dros Bont Menai neu Bont Britania draw i Gaernarfon? Ble bynnag yr ewch chi yng Nghymru, fyddwch chi byth yn rhy bell o rai o'r cestyll mwyaf mawreddog yn y byd, a safleoedd hanesyddol gwefreiddiol. Mae mwy na 600 ohonyn nhw, yn amrywio o gaerau Rhufeinig i blastai uchelwyr y 19eg ganrif. Mae mwy o gestyll yng Nghymru na'r unman arall yn Ewrop, a phob un ohonynt â hanes arbennig i'w hadrodd.
Castell sydd yng nghanol tref Caernarfon, Gwynedd ac ar lannau Afon Seiont ac Afon Menai yw Castell Caernarfon. Safle llawn hanes yw’r castell yma gan iddo fod yn ardal hanfodol ar gyfer goresgyniad y normandiaid. Os wnewh chi ymweld a’r castell prydferth yma yn ystod y nos, mae’r golau’n creu golygfa bythgofiadwy.
Cyfradd *****
Stadiwm Y Liberty
Os ydych am wylio’r unig dîm Cymreig sydd yn uwchgynghrair Lloegr yn chwarae dyma’r lle i ddod. Diwrnod llawn hwyl a sbri fydd gwylio’r Elyrch yn chwarae a mwynhau golygfeydd godidog y stadiwm newydd sydd gennym ar gyrion Abertawe. Gêm brydferth mewn stadiwm brydferth. Os ydych am ychydig bach o hanes gellir mynychu amgueddfa’r gwaith dur ger y stadiwm lle ceir hanes prydferthwch ein cyndeidiau yn cloddio am ddur. Dewch yn llu, ni chewch eich siomi.
Cyfradd *****
Sain Ffagan
Mae Sain Ffagan yn bentref ac yn gymuned ar gyrion Caerdydd, Bro Morgannwg. Rhed Afon Elai trwy'r pentref. Yn y castell a'i barcdir ceir Amgueddfa Werin Cymru. Daw'r enw o enw'r sant chwedlonol Ffagan. Mae modd agor y drws i hanes ein cenedl fach ni ac i fwynhau prydferthwch naturiol cymdeithas ein cyndeidiau.
Cyfradd: ****
Pen y Fan
Mynydd uchaf De Cymru wedi'i leoli ym Mannau Brycheiniog rhwng Llanymddyfri a Threfynwy yw Pen y Fan. Mae'n gorwedd ar grib uchaf Bannau Brycheiniog, rhwng y Gribyn a Chorn Du. Ni cheir prydferthwch naturiol o’r fath yn unman arall.
Mae’r golygfeydd godidog a’r teimlad o ryddid y cewch wrth garlamu i bigyn Pen-Y-Fan yn un i’w gofio’n dragwyddol. Heb os nac onibai prydferthwch naturiol heb ei ddinistrio gan ddyn a geir yma. Rhaid ymweld â’r ardal i werthfawrogi prydferthwch naturiol yng ngwir ystyr y gair!
Cyfradd *****
A dyna i chi fy saith syfrdanol ar gyfer y mis hwn! Dewch yn ôl mis nesaf i gael gwybod beth fydd fy saith syfrdanol nesaf!
Prydferwch Naturiol Y Cymry
Owain Glyn Dŵr yn brwydro dros ein hiaith,
T. Llew Jones ein hawdur o fri,
Gareth Bale yn dechrau ar ei daith,
Dyma yw prydferthwch i ni.
Shane Williams o’r cwm yn rhedeg fel y gwynt,
Sgorio sawl cais, o dyna falchder i’r Cymry!
Dewi ein nawdd sant cofiwn o gynt,
Drwy wisgo cenninen ar ein calon ni.
Dafydd Iwan a’i ganeuon am Gymru,
Max Boyce yn ein diddori storiau,
Dyma brydferthwch ddaw a deigryn i’n llygaid ni
Cymru am byth- “Hen Wlad Fy Nhadau”!
mesur corff | wynebau hapus | Prom |
---|---|---|
sgio | ffôn symudol | Paned |
ffrindiau | cadw'n heini | cariad |
cacen | hapus | cyfeillgarwch |
Positifrwydd Corfforol
Heddiw mae positifrwydd corfforol yn cynyddu, mae yna gymuned llawn pobl positif a chefnogol yn danfon y neges bod pawb yn bobl positif, hyderys a chryf.
Mae yna llawer o enwogion yn cefnogi positifrwydd corfforol fel Ashley Graham, Demi Lovato, Taylor Swift, Lorde, Rihanna, Khloe Kardashian, Adele, Miley Cyrus a llawer mwy. Mae’r enwogion hyn yn dweud bod hyder a bod yn hapus yn hardd a phrydferth. Maen nhw’n dweud peidiwch â becso ameich corff yn hytrach rhowch bwyslais ar sut rydych chi’n teimlo. Mae llawer o’r bobl yma yn dweud y dylech ganolbwyntio ar fod yn chi eich hun, peidiwch meddwl bod rhaid i chi edrych fel y bobl sydd ar glawr o Vogue ac Elle. Cofiwch mae’r cylchgronnau mwyaf moesol yn defnyddio rhai technegau golygu ar eu lluniau a’u delweddau!
Dywedodd Jennifer Lawrence, “Pam fod bychanu pobl yn ddoniol? Rwy’n deall, rwy’n gwneud hynny hefyd. Rydym ni gyd yn ei wneud... Ond rwy'n credu pan ddaw at y cyfryngau, mae angen i'r cyfryngau fod yn gyfrifol am yr effaith y maen nhw’n ei gael ar ein cenhedlaeth iau, ar y merched hyn sy'n gwylio’r sioeau teledu hyn ac yn cael eu dylanwadu.” A bobl bach, mae gan Jennifer bwynt yn does?! Mae’r hyn mae pobl ifanc yn ei weld ar y teledu, yn y sinema, ar Instagram, youtube… Mae’r cyfan yn ein dysgu ni sut i siarad â’n gilydd a sut i drin ein gilydd. Ac os welwn ni ein ’harwyr’ yn defnyddio’r iaith yma yn, sydyn rydyn ni’n meddwl ei fod yn dderbyniol i ni wneud hwyl am ben y ferch sy'n gwisgo ffrog hyll, neu’r bachgen sy’n gwisgo esgidiau y llynedd. A'r gair tew! A ddylen ni dderbyn y defnydd o’r gair hwn? A ddylai fod yn anghyfreithlon i alw rhywun yn dew ar y teledu? Dwi’n dechrau meddwl y dylai fod. Yr wyf yn golygu, os ydym yn rheoleiddio sigaréts a geiriau rhyw a rhegfeydd oherwydd yr effaith a gaiff ar ein cenhedlaeth iau, pam nad ydym yn rheoleiddio pethau fel galw pobl yn dew? Oes, mae angen i bob un ohonom geisio bod mor iach â phosib ond mae angen i chi ddechrau caru ein hunain fel ydyn ni.
Dyma rhai ffyrdd gallwn ni deimlo’n hyderus yn ein cyrff:-
Torrwch allan y cyfryngau ar lein sy’n gwneud i chi deimlo’n wael am eich ymddangosiad.
Ffocyswch ar sut rydych yn teimlo a nid eich edrychiad.
Torrwch allan eiriau negyddol am eich hun pan rydych yn siarad gyda phobl eraill.
Peidiwch â chymharu eich hun i bobl eraill. Un fersiwn ohonoch chi sydd yna a dyna yw’r unig fersiwn sy’n bwysig.
Peidiwch â bod yn ofnus i drio pethau newydd e.e lliwiau llachar, dillad ac esgidiau tal/byr.
Felly beth amdani? Beth am i ni i gyd ledaenu agwedd gadarnhaol am ein cyrff? Beth am i ni i gyd fod yn gadarnhaol wrth siarad am ein cyrff, ac yn hytrach nag edrych am y sylwad negyddol y gallwn ni ei wneud, beth am i ni siarad yn gadarnhaol am ein cyrff cryf, anhygoel a deniadol?
Oherwydd gam wrth gam, sylwad wrth sylwad gallwn ni newid agweddau a meddylfrydau.
Gyda’n gilydd, gam wrth gam gallwn ni newid pethau! Ydych chi am ymuno gyda fi yn y chwyldro?!
Cam wrth gam er mwyn
creu edrychiad colur naturiol!
CYNGOR I CHI GAN ERIN, MEGAN A CARYS
1. Golchwch eich wyneb gyda hylif tynnu colur gan ddefnyddio pêl o wlân cotwm. Gwnewch hyn er mwyn cael gwared ar unrhyw bacteria gwael ar eich croen.
2. Defnyddiwch smotyn bach o leithydd a rwbiwch e i’r croen dros y wyneb i gyd. Bydd hyn yn gwneud eich croen yn feddal ac yn cynnig sylfaen ar gyfer y colur.
3. Rhowch guddiwr i liwio unrhyw ardal o ddifwyno o amgylch eich llygaid.
4. Ar ôl hynny, rhowch colur sylfaen ar eich croen gyda eich bysedd, dylai un ‘pwmp’ fod yn ddigon er mwyn creu edrychiad natuiol.
5. Gosodwch sylfaen pwdr ar ran fwyaf olewog eich wyneb a defnyddio sbwng i’w daenu dros y croen.
6. Ychwanegwch bwdr lliw haul i naill eich wyneb i gyd neu ar hyd esgyrn eich bochau er mwyn creu edrychiad naturiol o liw haul.
7. Ychwanegwch bwdr gwrid pinc golau i flaen eich boch er mwyn creu tipyn bach o liw naturiol.
8. Defnyddiwch bwdr llygaid naturiol, er enghraifft lliw brown, dros eich llygaid i gyd er mwyn gwneud i’r llygaid edrych yn fwy.
9. Cyrliwch eich amrannau er mwyn rhoi edrychiad disglair. Mae eu cyrlio yn gwneud i’r amrannau edrych yn hirach a chyrlio llawer gwell wrth wisgo’r masgara.
10. Dewiswch masgara brown neu frownddu er mwyn sicrhau nad yw eich llygaid yn edrych yn rhy drwm.
11. Rhowch liw pinc naturiol i’ch gwefusau ac ychwanegu ato gyda glos disglair.
12. Mwynhewch eich edrychiad gwlithog, ffres a phelydrol. Rydych chi nawr yn barod i fynd allan yn edrych yn arbennig!
Beth ydy eich barn chi?
Ydych chi'n cytuno gyda'r sylwadau yma? Cysylltwch gyda ni ac fe wnawn ni gynnwys eich sylwadau yn y rhifyn nesaf!
Trydar- @c_fflach
Beth yw harddwch?
Os holwch chi bobl beth yw harddwch, byddwch chi’n siwr o dderbyn atebion sy’n cynnwys barn amrywiol. Mae atebion yn ddibynnol ar ddylanwadau diwylliannol, genetig ac amgylcheddol. Er enghraifft, bydd barn rhywun sy'n byw ym Mhrydain am beth sy'n brydferth yn wahanol i farn rhywun sy'n byw yn Korea. Mae hyn oherwydd mae pobl o wledydd gwahanol yn cael eu geni gydag edrychiad a safonau harddwch gwahanol.
Os holwch chi bobl o'r Ariannyn, Bangladesh, Kenya, Pacistan, Yr Unol Daleithiau, India, Sri Lanka, Ynysoedd Y Ffilipinau neu Moroco bydden nhw yn sicr o weld harddwch mewn ffurfiau gwahanol. Mae yna amrywiaeth o liwiau croen, gwallt a llygaid, faint o golur sy'n ddeniadol a pha mor naturiol ydy'r edrychiad.
Ydy harddwch yn ddyfnach na’r croen yn unig?
Dyma farn pobl ifanc a oedd yn siopa ar y stryd fawr am y cwestiwn hwn.
"Nac ydy, dydy harddwch ddim yn ddyfnach na’r croen. Mae'r bobl fwyaf prydferth yn gallu gwneud y pethau mwyaf hyll. Rwy'n dyfalu bod hyn oherwydd mae pŵer absoliwt yn llygru’r enaid yn llwyr, mae pobl bert yn bwerus yn awtomatig. Mae'r pŵer hwn yn eu gwneud nhw'n fas ac yn wag y tu mewn. Maent yn dechrau gofalu yn unig amdanynt eu hunain a chyrraedd mwy a mwy o bŵer." Sara, 19
"Wel yn fy marn i dim, mae harddwch yn sicr yn groen-ddwfn yn unig. Os ydych yn gweld person hyll, byddwch yn meddwl bod y person hwn yn berson drwg. Bydd ei ymennydd ef/hi yn ddrwg. Ond os ydych yn gweld person prydferth, byddwch yn meddwl bydd y person hwn yn berson da. Bydd ei ymennydd ef/hi yn dda. Fel hyn, mae pobl yn hoff o bobl brydferth. Felly mae harddwch ddim ond yn groen-ddwfn." Osian, 18
"Dwi’n eitha sicr bod harddwch yn treiddio hyd ddyfnder y croen yn unig. Yn gyntaf, pwy ydym ni i farnu pobl arall ar eu hedrychiad nhw. Dydy rhywbeth prydferth i un person ddim yn o angenrheidrwydd yn brydferth i'r person nesaf. Mae pobl sy'n cael eu hadnabod fel y rhai "harddaf" neu'r "mwyaf poblogaidd" yn ae leu penderfynu gan gymdeithas a phan rydych yn edrych ar y bobl 'na, gallan nhw fod yn anghwrtais. Ond gallan nhw hefyd fod y bobl fwyaf cwrtais gallwch chi ddymuno eu cyfarfod! Ond os ydych yn cymharu rhywun sy'n cael eu hadnabod fel "prydferth" gyda rhywun sy'n cael eu hadnabod fel "hyll' , wedyn ydy, dim ond hyd ddyfnder y drone mae harddwch yn treiddio. Dydy pobl ddim yn meddwl a ydy'r ferch neu fachgen yna yn gwrtais neu ofalgar, yn gyntaf maen nhw'n edrych ar yr edrychiad ac yn eu beirniadu nhw cyn siarad gyda nhw.” Ela, 15
“Ydy wrth gwrs! Mae harddwch yn gallu codi hunan-barch rhywun. Ydy, mae'r tu fewn yn bwysicach nag y tu fas, ond mae angen ystyried dwy ochr y ddadl? Mae llawer o achosion hunanladdiad o ganlyniad i unigolion yn meddwl nad ydyn nhw yn edrych yn "ddigon da". Nawr, dydw i ddim yn dweud bod y tu allan yn bwysicach nag y tu fewn, ond mae argraff gyntaf person arall yn seiliedig ar sut y mae'n edrych a gwisgo. Mae'n bwysig i adael argraff dda." Meg, 18
"Mae mwy i harddwch na’r hyn mae’r llygaid yn ei weld. Mae’r tu mewn yn cyfrif. Os edrychwn ar ddim ond harddwch allanol pobl byddwn yn anwybyddu’r holl harddwch sydd ganddynt y tu mewn. Mae ein harddwch mewnol yn cynnwys ein personoliaeth. Gall rywun sy'n hollol hardd gael personoliaeth tywyll. Cariad, digrifwch, caredigrwydd mae’r rhain i gyd yn elfennau o harddwch ac eto ni allwn weld hynny dim ond wrth edrych ar rywun. Mae angen i chi ddod i adnabod eu personoliaeth. Siaradwch â nhw. Deall eich gwahaniaethau. Peidiwch â barnu llyfr yn ôl ei glawr. Peidiwch â barnu person ar sut maent yn edrych." Steff, 16
Effaith harddwch ym myd natur ar ein iechyd
Mae llawer o seicolegwyr amgylcheddol sy’n astudio effeithiau seicolegol amgylcheddau naturiol ac adeiledig ar fodau dynol wedi dangos bod gan dreulio amser yng nghanol natur fanteision seicolegol go iawn. Er enghraifft, os byddwch yn penderfynu mynd am dro, anghofiwch y periant rhedeg. Cerddwch ar y llwybr natur yn lle hynny, byddwch yn gweld eich hwyliau yn gwella, yn profi llai o rwystredigaeth a gofid meddwl is.
Dywedodd Vincent Van Gogh "If you truly love nature, you will find beauty everywhere." Mae hyn yn pwysleisio'r ffaith bod harddwch o'n cwmpas trwy'r amser
Troi harddwch yn ddawns!
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae rhywun yn mynd ati i greu dawns? Wel, cawson ni sgwrs gyda Cerys, sydd wrthi yn cynllunio ei pherfformiad ar gyfer ei harholiad lefel A. Ar gyfer ei pherfformiad mae’n rhaid i Cerys ddyfeisio dawns yn seiliedig ar lun o afon hardd. Rhydian fuodd yn ei holi...
Pnawn da, rho ‘chydig bach o dy gefndir i ni!
Fy enw i ydy Cerys Young ac rydw i yn 18 mlwydd oed. Rydw i yn byw yn Abertawe ac yn ddisgybl ym ml 13.
Ers pryd wyt ti wedi bod yn dawnsio?
Rydw i wedi bod yn dawnsio am bymtheg mlynedd, dechreuais ddawnsio pan oeddwn i yn 3 mlwydd oed.
Beth yw dy hoff fath o ddawns?
Dyna gwestiwn anodd! Rydw i yn gwneud llwyth o wahanol fathau o ddawns ond fy hoff un i allan ohonyn nhw gyd ydy dawnsio cyfoes.
Beth a dy sbardunodd i greu dawns o lun yr afon?
Mae’n rhaid i mi greu darn o ddawns ar gyfer fy arholiad lefel-a mewn dawns a dyma beth a fy sbardunodd i i ddechrau gwneud y ddawns. Dewsais wneud y cwestiwn am yr afon oherwydd mai hwn oedd y cwestiwn mwyaf diddorol yn fy marn i. Trwy ddefnyddio'r cwestiwn yma i greu fy narn roeddwn i wedi penderfynu defnyddio lluniau gwahanol o afonydd er mwyn helpu cael syniad unigryw i greu'r ddawns. Gwelais bod modd i mi ddefnyddio’r harddwch yn y llun er mwyn creu darn diddorol a gwreiddiol.
Beth yw ystyr y llun i ti? Pa deimladau a themâu welaist di?
Wrth edrych ar y lluniau roeddwn i wedi meddwl am rai syniadau cyn dechrau symud y ddawns, ac hefyd roedd rhaid gwneud gwaith ymchwil er mwyn darganfod nodweddion yr afon i gael rhyw fath o syniadau cyn dechau. Wrth edrych ar y lluniau roedd yna wahanol fathau o syniadau gen i. Dechreuais i wrth weithio gyda'r thema neu’r syniad o'r afon yn taro i mewn i rywbeth fel cerrig ac mynd bant mewn gwahanol ffyrdd i mewn i nentydd.
Esbonia’r broses o ffurfio'r symudiadau.
Cyn creu'r symudiadau ar gyfer y ddawns roedd angen i mi dynnu allan y nodweddion sy'n gysylltiedig â'r afon er mwyn dechrau cael symudiadau gwahanol cyn eu rhoi nhw at ei gilydd. Roeddwn i wedi dechrau bant gyda'r syniad o'r afon yn droellog ac rydw i wedi creu symudiad ac yna datblygu'r symudiad hwnnw i greu darlun hirach i gyfleu hyn. Yna gwnes i ddefnyddio'r syniad o'r afon yn mynd dros ac o dan bethau gwahanol, e.e. mynd o dan fryn. Rwyf wedi cyfleu'r syniad yma trwy ddefnyddio motif i gymal y symudiad, er enghraifft rydw i wedi defnyddio dau berson i greu symudiadau o fynd o dan a dros ei gilydd. Roeddwn i hefyd, wedi defnyddio y syniad o'r afon yn taro creigiau gwahanol i greu symudiadau allan o hynny.
Beth yw cysylltiad y symudiadau a'r llun? Sut ydy'r themâu gwelaist yn y llun yn amlygu yn y ddawns?
Mae’r llun yn dangos afon bwerus, lydan, rhaeadr hardd a’r afonydd llai sy’n bwydo’r afon. Ceisais gyfleu hynny wrth i mi greu’r ddawns. Gwelais i harddwch, pwer, symudiad, newid, esblygiad, datblygiad ... mae’r cyfan yn y llun hwn! Ceisiais gyfleu hyn drwy fy symudiadau a chyfleu gryma harddwch yr afon.
Diolch am sgwrsio gyda ni Cerys a phob lwc gyda dy arholiad!
Ronaldo
Bale, Messi, Robson-Kanu,... Mae gan bawb eu harwr pêl droed. Dyma i chi ychydig o fanylion am un sy’n arwr i filoedd ar filoedd sef Cristiano Ronaldo. Mae’n enwog am ei fod yn gwneud i’r gêm hardd edrych yn harddach fyth!
Cafodd Cristiano Ronaldo Dos Santos Aveirio ei eni ar y pumed o Chwefror 1985, yn Funchal Madeira yn Mhortugal. Dechreuodd ei yrfa yn chwarae i Sporting Lisbon ym Mhortugal a phan chwaraeon nhw yn erbyn Manchester United mewn gêm gyfeillgar cafodd Ronaldo ei ddewis gan un o sgowtiaid Manchester United fel targed i Syr Alex Ferguson ei brynu yn ystod haf 2003. Arwyddodd Ronaldo gytundeb gyda Manchester United am 12 miliwn o bunoedd yn haf 2003. Chwaraeodd Ronaldo ei gêm gyntaf i Manchester United yn erbyn Bolton Wanderers a chafodd gymeradwyaeth dda iawn yn dilyn y fuddugoliaeth a’r sgor o 4-0.
Yn y bedair mlynedd nesaf roedd Ronaldo ar dân i Manchester United, gan fod yn rhan o dîm a enillodd yr uwchgynghrair dair gwaith a ennill Cynghrair y Pencampwyr am y tro cynta ers cyfnod i Manchester United a hefyd enillodd wobr unigol am fod yn chwaraewr gorau y byd gan ennill y Ballon d'or am y tro cyntaf. Ar ôl dyddiau o sibrydion symudodd Ronaldo i Real Madrid am £80 miliwn, sef record byd gan ei wneud yn chwarewr drytaf y byd. Chwaraeodd Ronaldo ei gêm gyntaf i Real Madrid yn erbyn Derportivo La Coruna a sgoriodd ei gol gyntaf dros Real Madrid mewn buddugoliaeth o 3 gol i 2.
8 mlynedd yn hwyrach mae Ronaldo yn un o chwaraewyr gorau'r byd gan ennill y Ballon d'or 4 gwaith, y Champions League 4 gwaith, La Liga ddwywaith, y Copa Del Rey ddwywaith, Supercopa Espana ddwywaith, y UEFA Super cup a'r FIFA Club World Cup ddwywaith a phob un yn dod gyda Real Madrid. Mae hyn yn dangos pam nad yw Ronaldo yn cymharu gyda phêl droedwyr eraill heb law Messi. Yn 2016 llwyddodd Ronaldo i helpu Portugal ennill y Cwpan Ewropeaidd fel Capten am y tro cyntaf yn ei hanes.
Ronaldo yw un o chwaraewyr mwyaf hael y byd gan ei fod yn rhoi llawer o'i arian i elusennau i gynorthwyo plant a hefyd wedi gwerthu un o'i Ballon d'or am £222,000 ar gyfer achos elusennol. Cafodd Ronaldo ei gysylltu gyda rhieni Eric Oritz sef y person sydd angen triniaeth. er mwyn rhoi crys t ac esgidiau pêl-droed iddynt eu gwerthu mewn arwerthiant er mwyn codi arian i dalu am lawdrinaeth yr ymennydd, Ond aeth Ronaldo gam ymhellach a thalu y £50,000 i gyd ar gyfer y llawdriniaeth a £5,000 ar gyfer pob sesiwn roedd angen i Erik Oritz ei gael ar ol ei lawdriniaeth. Hefyd mae Ronaldo yn rhoi gwaed dwywaith y flwyddyn ac yn gefnogol iawn i’r ymgyrch hwn Mae Ronaldo yn gweithio gyda’r elusennau hyn i gyd; Cahonas Scotland, Save The Children, Unicef a World Vision. Pan ennillodd yr esgid aur yn 2011, gwerthodd y tlws am 1.5 miliwn a rhoddodd yr arian i gyd i Ysgol Palestineinaidd. Hefyd rhoddodd gyfraniad o £100,000 i'r ysbyty yn Madeira a achubodd fywyd ei fam.
Caiff Ronaldo ei bortreadu fel person haerllug ond mae ei waith elusennol yn dangos nad yw’n berson haerllug ond yn berson da a charedig, sy’n fodlon defnyddio ei enwogrwydd er mwyn gwneud daioni yn y byd. Gall Ronaldo fod yn haerllug ar y cae pêl-droed oherwydd ei gymhelliant i lwyddo yn ei yrfa. Oherwydd ei boblogrwydd mae ffigwr cwyr ohono yn Madame Tussauds yn Llundain, Hefyd mae galaeth wedi enwi ar ei ôl o'r enw ''Cosmos Redshif 7'', a mae maes awyr yn Madeira wedi ei enwi ar ei ôl, sef ''Cristiano Ronaldo International Airport.'' Creodd rhywun hefyd ben Ronaldo mas o efydd er mwyn dangos ei edmygedd tuag at y pêl droediwr enwog- fodd bynnag, efallai i chi gofio ei weld yn y cyfryngau y llynedd am nad yw’n edrych llawer yn debyg iddo!
Mae Ronaldo yn ysbrydoli nifer o bobl ifanc oherwydd ei gymhelliant i lwyddo a'r ffaith ei fod yn gwrthod rhoi'r gorau iddi pan mai siawns bychan o ennill sydd yna. Pan oedd yn ifanc derbyniodd ddiagnosis o gyflwr ‘Racing Heart’ a allai wedi ei rwystro rhag chwarae pêl droed o gwbl. Derbyniodd lawdriniaeth laser i drin rhan o'r galon a oedd wedi ei effeithio. Ar ôl y llawdriniaeth dywedodd meddygon bod siawns bychan y byddai’n ddigon cryf i chwarae pêl-droed yn broffesiynol oherwydd cyflwr ei galon. Er gwaethaf hyn dangosodd ddyfalbarhad anhygoel a phrofi’r meddygon yn anghywir. Y ffordd mwyaf mae Ronaldo yn fy ysbrydoli yw ei gymhelliant i beidio rhoi'r gorau iddi. Dyna pam mae Ronaldo yn ysbrydoli llawer o bobl ar draws y byd. Mae e’n eu dysgu pan nad yw pethau yn gweithio y tro cyntaf i beidio rhoi'r ffidil yn y to.
Dyddiadur Bydwraig
Annwyl ddyddiadur,
Gwely o’r diwedd! Mae pob cyhur yn brifo ar ddiwedd fy niwrnod gwaith, fy nhraed druan yn sgrechian am y slipars a fy llaw yn barod i estyn am rywbeth melys o’r tun yn y gegin. Ond a fyddwn i’n newid y profiad?! Na fyddwn siwr!
Fel pob diwrnod arall, heddiw gwnes i atgoffa fy hun yn union pam dwi’n bydwraig, oherwydd fy nymuniad dwfn i ofalu am eraill, a fy chwilfrydedd naturiol am enedigaeth a beichiogrwydd. I mi, mae’r teimlad o groesawu bywyd newydd i’r byd yn ddarluniadol a chalonogol. Mae gofalu am fenyw sydd mewn gwewyr esgor yn heriol iawn, ond mae’r cyfan werth e. Mae gan bob menyw sy’n disgwyl anghenion gwahanol, ond heb amheuaeth mae pob menyw yn gryf a phwerus. Y peth gorau am fy swydd i yw gweld gwên mam newydd yn lledu ar draws ei hwyneb blinedig ar ôl y profiad afrwydd o gael babi.
Dechreuodd fy niwrnod gyda throsglwyddiad manylion gan staff y nos, sy’n golygu cael gwybod am bob claf, pa fath o enedigaeth cawson nhw, neu a ydyn nhw’n ei ddymuno, eu hanes meddygol, a beth sydd angen cael ei wneud trwy gydol y dydd. Fel ddoe, gwnaethom ni rannu'r gwaith rhwng y staff i gyd, ac fel bydwraig ifanc a brwdfrydig, cefais i’r mwyaf o dasgau i wneud! Ond does dim ots gen i. Mae’n bleser gweithio gyda’r bydwragedd profiadol, doeth ac angerddol hyn.
Yn wahanol i unrhyw ddiwrnod arall, heddiw teimlais fel roeddwn i yn gweithio mewn ffatri, nid ward mamolaeth! Efo’r maint helaeth o famau a babanod newydd, mae’n rhaid i ni gadw symud trwy’r broses mor gyflym â phosib , ond fel dywedais i, mae o i gyd werth pob diferyn o chwys sy’n cael ei golli.
Pob diwrnod, mae gen i nod, bod pob mam a babi sy’n gadael yr ysbyty yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i deimlo yn ddiogel ac wedi’i cefnogi’n dda. Efallai nad ydyn nhw yn sylweddoli hynny nawr, ond bydd eu bywydau yn newid yn gyfan gwbl ar ôl gadael yr ysbyty, dyma yw rhywbeth iddyn nhw edrych ymlaen ato! Heddiw roeddwn i yn ffodus i gael y cyfle i gael awr i gefnogi menyw a oedd yn bwydo ar y fron. Ar ôl hyn, edrychodd hi arna i gan ddweud, “Diolch, rwyt ti wedi cyflwyno’r help roeddwn i angen.” Yn naturiol, roeddwn i yn ymfalchïo i mi ei chynorthwyo, ac yn llawn balchder i wybod yng nghanol yr anhrefn, gwnes i wir creu gwahaniaeth. Rydw i’n ceisio treulio amser gyda mamau newydd yn fy amser rhydd, ac weithiau hyd yn oed cael cwtsh efo’r babanod. Oes na deimlad tebyg yn y byd i deimlo llaw fechan gynnes yn cydio’n dynn yn eich bys? Rydw i’n hoff iawn o allu helpu menywod sydd yn amlwg yn nerfus, a phryderus, yn aml ar ôl genedigaeth drawmatig. Does dim byd gwell na gallu gweld gwên ar wyneb mam newydd. Ar ôl syllu ar yr holl anhrefn, a gweld aelodau o staff yn rhedeg o un ystafell i’r llall, mae’n braf i allu gorffen fy niwrnod trwy adael teuluoedd diolchgar a’u haelod newydd o’r teulu yn hapus a bodlon. Rydw i’n barod am ddiwrnod newydd yfory, ac i allu croesawu aelodau newydd i’r byd, ond yn gyntaf, ble mae'r slipars a'r tun pethau melys yn y gegin?!
Noswaith dda,
Elin
Christian Dior
Dylunydd ffasiwn Ffrengig oedd Christian Dior a roedd ei greadigaethau ar ôl yr Ail Rhyfel Byd yn boblogaidd iawn.
Mae ei etifeddiaeth yn parhau i ddylanwadu ar y diwydiant ffasiwn a chafodd effaith mawr ar y byd ffasiwn, gan newid meddyliau pobl am sut gall dillad edrych. Gwelodd harddwch ac ysbrydoliaeth yn yr adeiliadau o’i gwmpas a thrawsnewid syniadau ei oes am ffasiwn.
Bywyd Cynnar
Ganwyd Christian Dior yn Glanville, tref ar lan y môr ar arfordir Normandy, Ffrainc ym 1905. Roedd yn fab i wneuthurwr gwrtaith cyfoethog o’r enw Maurice Dior a’i wraig Madeleine Dior, ac yn un o bump o blant. Roedd ganddo bedwar o frodyr a chwiorydd. Pan oedd yn bump oed, symudodd gyda’i deulu i Baris, ond dychwelodd i arfordir Normandi ar gyfer gwyliau’r haf.
Gobeithiai’r teulu Dior y byddai’n dod yn ddiplomydd, ond roedd Dior yn artistig ac yn dymuno ymwneud â celf. I wneud arian, gwerthodd ei frasluniau ffasiwn y tu allan i’w dy am tua 10 cent yr un. Ym 1928, gadawodd Dior yr ysgol a derbyniodd arian gan ei dad i ariannu oriel gelf fach, lle bu ef a’i ffrind yn gwerthu celf gan Pablo Picasso. Tair blynedd yn ddiweddarach, ar ôl marwolaeth mam a brawd Dior a thrychineb ariannol ym myd gwrtaith y teulu , yn ystod y Dirwasgiad mawr, a arweiniodd at ei dad yn colli rheolaeth o Dior Frḕres, roedd rhaid i Dior gau’r oriel.
Yn 1937, cafodd Dior ei gyflogi gan y dylunydd ffasiwn Robert Piguet, a roddodd y cyfle i gynllunio ar gyfer tri o'i gasgliadau. Dywedodd Dior yn ddiweddarach, “Dysgodd Robert Piguet i mi rhinweddau symlrwydd a thrwyddynt daw gwir osgeiddrwydd”. Un o'i ddyluniadau gwreiddiol ar gyfer Piguet oedd gwisg dydd gyda sgert fer, llawn o'r enw "Cafe Anglais". Cafodd y dyluniad dderbyniad arbennig o dda. Tra bu’n gweithio i Piguet, gweithiodd Dior ochr yn ochr â Pierre Balmain, a chafodd ei olynu fel dylunydd tŷ gan Marc Bohan – a ddaeth, yn 1960, yn bennaeth dylunio ar gyfer ‘Christian Dior Paris’. Gadawodd Dior Piguet pan gafodd ei alw ar gyfer gwasanaeth milwrol.
Yn 1942, pan adawodd Dior y fyddin, ymunodd â Thŷ ffasiwn Lucien Lelong, lle mai ef a Balmain oedd y dylunwyr sylfaenol. Drwy gydol yr ail ryfel byd, roedd Dior, fel cyflogai i Lelong (a lafuriodd i gadw y diwydiant ffasiwn Ffrengig yn ystod adeg y rhyfel am resymau economaidd a chelfyddydol) yn cynllunio ffrogiau ar gyfer gwragedd swyddogion Natsïaidd a Ffrancwyr a gydweithiai â'r blaid, fel y gwnaeth tai ffasiwn eraill a arhosodd mewn busnes yn ystod y rhyfel, gan gynnwys Jean Patou, Jeanne Lanvin, a Nina Ricci. Cafodd ei chwaer, Catherine, ei chipio gan brif gadfridogion Hitler, a'i hanfon at wersyll crynhoi Ravensbrück, lle cafodd ei charcharu tan ei rhyddhau ym mis Mai 1945.
Tŷ ffasiwn Dior
Yn 1946, gwahoddodd Marcel Boussac, mentrwr, Dior i ddylunio ar gyfer Philippe et Gaston, Tŷ ffasiwn Paris a lansiwyd ym 1925. Gwrthododd Dior, roedd yn awyddus i ddechrau o’r newydd o dan ei enw ei hun yn hytrach nag adfywio hen frand. Ar 8 Rhagfyr 1946, gyda chefnogaeth Boussac, sefydlodd Dior ei dŷ ffasiwn. Enw gwir y llinell o'i gasgliad cyntaf, a gyflwynwyd ar 12 Chwefror 1947, oedd Corolle, ond cafodd yr ymadrodd ‘New Look’ ei greu gan Carmel Snow, Prif Olygydd ‘Harper’s Bazaar’.
I ddechrau, roedd menywod yn protestio oherwydd gorchuddiwyd eu coesau gan ei ddyluniadau. Roedd hefyd rhywfaint o adlach i ddyluniadau Dior oherwydd swm y deunyddiau a ddefnyddwyd mewn gwisg sengl neu siwt. Yn ystod un saethiad llun mewn marchnad, ymosodwyd ar y modelau gan werthwyr benywaidd dros yr afradlonedd hyn, ond daeth hyn i ben wrth i ddogni'r rhyfel ddod i ben. Gwnaeth "New Look" chwyldroi gwisg y merched ac ailsefydlu Paris fel canolbwynt y byd ffasiwn ar ôl yr Ail Rhyfel Byd.
Marwolaeth
Bu farw Christian Dior tra ar wyliau yn Montecatini, yr Eidal ar 24 Hydref 1957, yn 52 mlwydd oed. Mae rhai adroddiadau yn dweud y bu farw o drawiad ar y galon ar ôl tagu ar esgyrn pysgod. Dywedodd ysgrif ym mhapur newydd y ‘times’ y bu farw Christian Dior o drawiad ar y galon ar ôl chwarae gêm o gardiau.
O le ddaeth ei ysbrydoliaeth?
Yn anghyffredin i ddylunydd dillad, ysbrydolwyd Christian Dior gan bensaernïaeth. Roedd ganddo gariad mawr tuag at bensaernïaeth a phwysleisiodd llawer o'i ddyluniadau siâp a ffurf y corff benywaidd. Defnyddiodd lawer o wahanol dechnegau yn ei ddillad a bwysleisiodd y cluniau a'r bust i roi golwg nwydus i fenywod. Mae’r edrychiad yn parhau yn hynod boblogaidd hyd heddiw, ac felly mae dyluniadau Dior dal yn parhau i’w gwerthu heddiw.
Beth sydd mor arbennig am ddyluniadau Dior?
Doedd Dior ddim eisiau creu dillad bob dydd ar gyfer menyw pragmatig o'r ganrif a symudai’n gyflym ond yn hytrach, gwerthu breuddwyd o'r hen ddyddiau da, pan fyddai menyw yn gallu fforddio bod yn anhygoel a phert. Roedd y “New Look” yn golygu ailddarganfod ffyniant, ac roedd menywod ar draws cenedlaethau a dosbarthiadau cymdeithasol yn hapus. Roedd dyluniadau Dior yn gwneud defnydd o harddwch naturiol merched a siap eu cyrff ac y mae ei syniadau yn parhau i ddylanwadu ar ffasiwn heddiw.
Bywyd
YR HARDDWCH O DAN EIN TRWYNAU!
Dewch gyda ni i archwilio'r harddwch naturiol sydd ambell dro yn cuddio o dan ein trwynau! Yn yr adran hon rydym ni am edrych ar beth yw harddwch naturiol o fewn pobl, yr harddwch sydd mewn swyddi amrywiol, rhai o'r llefydd gallwch chi ymweld â nhw, ac yn bwysicaf, 'dyn ni am eich gadael chi yn teimlo'n gadarnhaol am eich delwedd!