©2018 BY FFLACH. PROUDLY CREATED WITH WIX.COM

Ffeithiau ffantastig 'fi a fe'!

YN Y RHIFYN HWN MAE ‘FI A FE’ WEDI CASGLU FFEITHIAU FFANTASTIG AM Y GOFOD!

Mae llawer o bethau anhygoel yn y gofod e.e corachod coch, tyllau du a uwchnofa. Am ganrifoedd roedd pobl yn edrych i’r awyr yn meddwl am ddirgelion y gofod, ac ar yr  21 o Ebrill 1961, aeth y dyn cyntaf i’r gofod. Roedd hwn yn gam enfawr i archwiliad y gofod.

Erbyn eleni mae gwyddonwyr yn darganfod planedau a allai fod yn addas i gynnal bywyd. Y syniad o wladychu planedau newydd yw thema ein ffeithiau ffantastig y tro hwn.

Planedau cyfanheddol.

Yn gyntaf oes yna blandedau cyfanheddol? Oes, mae yna lawer. Mae gwyddonwyr yn darganfod un pob dydd gan ddefnyddio’r kepler drone. Mae yna lawer ar draws y bydysawd a gall y planedau yma gynnal bywyd.

Beth sy angen i gael planed cyfanheddol?

Mae angen 4 peth er mwyn cael unrhyw fath o fywyd ar blaned.

Dŵr - Mae dŵr yn gallu dal bywyd. Mae gwyddonwyr eisiau danfon prociwr i’r lleuad Europa, sef un o leuadau Iau. Oherwydd bod ia ar ei wyneb, ac felly mae hynny’n golygu dŵr wrth gwrs, mae siawns bod bywyd yno.

Bwyd - Er mwyn i unrhyw beth oroesi mae angen bwyd.

Ocsigen - Mae angen ocsigen ar bopeth  i fyw.

Yr ardal  ‘Goldilocks’ - Mae rhaid i blaned fod yn yr ardal goldilocks i gael unrhyw fath o fywyd. I chi sydd ddim yn gwybod beth yw’r ardal goldilocks dyma le yn y cysawd ble dydy’r tymheredd ddim yn rhy boeth neu’n rhy oer, mae’n union gywir, fel yr uwd yn stori Elen Ben Felen a’r tair arth. Mae hyn yn golygu gall ffotosynthesis ddigwydd a a holl brosesau bywyd.

Tatooine

Mae gwyddonwyr wedi darganfod planed fel tatooine fel yn y ffilm ‘ Star Wars’. Mae’r blaned yn troi o gwympas 2 haul fel y planed Tatooine . Er nad oes enw ganddo mae’r blaned yn eistedd rhywle yn y clwstwr Gemini.

Gliese 1214 b

Mae’r blaned Gliese 1214 b yn blaned dŵr. Oherwydd bod tynfa dysgyrchiant mor gryf mae’r dŵr yn cael ei wasgu lawr i greu ia yng nghanol y blaned. Mae’r blaned yn troelli o amgylch y seren GJ 1214.

Neifion

Ein hoff blaned. Mae’r atmosffer mor anghyffredin mae’n bwrw glaw diamwntiau.  Mae’n ganddo 14 lleuad.  Mae’r disgyrchiant mor gryf mae’n tynnu mewn ei leuad Triton. Oherwydd hyn, mewn cwpwl o flynyddoedd bydd ganddo fwy o fodrwyau na Sadwrn.

A dyna ni- dyna ffeithiau ffantastig 'fi a fe' am y mis hwn! Ble fydden nhw'n mynd y mis nesaf tybed?!

Archwiliad Y Gofod

DEWCH AR DAITH GYDA FFION

Mae’n natur dynol i ymestyn, i fynd, i weld, i ddeall. Nid yw archwilio’r gofod yn ddewis, mewn gwirionedd mae’n hanfodol.
Yn dilyn fy ymweliad diweddar â NASA clywais am y prosiect Apollo a dysgais lawer am sut mae ein bywydau bob dydd wedi elwa o’r prosiect. Apollo 11. Un o deithiau enwocaf y prosiect Apollo, y rocet a greodd hanes ar 16fed o Orffennaf 1969 pan gamodd Neil Armstrong ar y lleuad. “Un cam bychan i ddyn, un naid enfawr i  ddynoliaeth!” Ond, dydy llawer o’r byd heb sylweddoli y cyflawniadau mawr hyn a wnaed gan y teithiau Apollo eraill.
Ydych chi byth wedi ystyried bod archwiliad y gofod er mwyn darganfod planedau newydd neu os mae bywyd arall allan yno ac dydyn ni ddim ar ein pen ein hun yn y gofod enfawr, anhysbys ac cyffrous yma? Mae 60% yn credu bod archwiliad y gofod yn wastraff amser ble gallwn ffocysu ar gwella safon byw, ymchwilio i drin pobl efo cancr neu hyd yn oed wella ein ffurf o gyfathrebu. Ond, oherwydd archwiliad y gofod mae’r pethau hyn yn cael eu datblygu a’u gwella o ganlyniad i ddyfeisiad technoleg newydd sy wedi dod yn fyw. Ond sut mae hyn? Mae NASA wedi profi trychinebau wrth ddylunio, creu a lansio rocedi, felly roedd rhaid iddyn nhw greu ffurfiau gwahanol o bron popeth o danwyddau rocet, i’r wennol, i’r atgyfnethwyr rocet ac o ganlyniad crewyd technoleg gwahanol.
Y rocet yma oedd y cyntaf o’i fath gan symboleiddio agoriad prosiect mwayf NASA ar y pryd……… Apollo 1. Ei bwrpas oedd y daith brawf dynol cyntaf yn orbit y ddaear ond oherwydd ffiws byr neu orlwyth trydanol dechreuodd tân a lledaenodd i’r modiwl gorchymyn a lladd y tri gofodwr. Dysgodd NASA o’r trychineb. A defnyddion nhw Apollo 1 ond ei wella er mwyn cwbwlhau beth na lwyddodd y gofodwr i wneud. Roedd rhaid i dîm NASA greu technoleg newydd nad oedd yn boddoli ar y pryd. Roedd rhaid iddyn nhw ddarganfod ffordd i gyfathrebu efo’r gofodwyr pan oeddent yn y gofod, sef dros 300 milltir tu allan i’r atmosffer felly roedd rhaid meddwl am ffordd i gyfathrebu allan yn y gofod. Gan na lwyddodd Apollo 1 ffurfiwyd technoleg cyfathrebu  a oedd yn lasluniau y dyfodol a chreu sylfaen i’r rocedi Apollo a ddilynodd.
Ydych chi wedi clywed am y rofer lunar? Sut ydych chi yn credu bod y rhain yn cyfathrebu ac anfon lluniau i’r ddaear? Lloerennau. Ond y broblem oedd, mai dim ond yn 1957 cafodd lloerenau eu dyfeisio felly roedd signal yn torri trwy’r amser gan wneud cyfarthrebu a oedd eisioes yn anodd ganwaith yn anoddach gan fod rhaid i’r neges fynd yn gyntaf i’r lloerennau ac yna i’r ddaear, ond hefyd roedd dros 300 milltir o wagle rhwng y ddau. Golygai hyn bod angen i NASA weithio i greu technoleg fwy addas, effeithlon a chyflym. Cynorthwyodd hyn ddatblygiad y ffonau sy’n eistedd yn eich pocedi ar y funud yma. Roedd cyfrifiaduron yn beiriannau enfawr yn y 1950au a’r 1960au felly dros amser roedd rhaid i NASA ddarganfod sut i greu bwrdd a oedd  yn llai, gan fod angen lle i 2 atgyfnerthwyr rocet, tanc allanol a’r rhannau eraill. Mae rocet yn pwyso 2.8 miliwn kg felly mae angen i bopeth bwyso cyn lleied â phosib gan fod tua 10,000 o gydrannau eraill yn y roced fel tanwydd roced, atgyfnerthwyr roced, gwennol, tanc allanol, a’r parasiwt.
Mae darganfod planedau eraill yn hanfodol er wmyn ein cynorthwyo ni i ddeall mwy am sut crewyd y byd ac hefyd os ydyn ni ar y ffordd i ddod i ben fel Mawrth. Mae angen moddion newydd gan fod afiaechydon yn dysgu sut i ymladd yn ôl. Mae darganfod mwy am y tu allan yn ein helpu ni i ddarganfod mwy am y tu fewn, yn wir i ddarganfod sut i helpu ein byd, mae angen edrych ar ôl ein pobl, ein hanifeiliad, ein planhigion. Mae archwiliad y gofod yn cymorthwyo y byd yn fwy nag yr ydych chi’n credu. Faint o swyddi ydych chi’n credu sy’n cael eu creu o ganlyniad i archwiliad y gofod? 1,000? Na, 7,000? Anghywir. Mae 18,000 o swyddi yn bodoli oherwydd archwiliad y gofod, mae hynny’n golygu mae 18,000 o bobl pob dydd yn gweithio i wella rocedi ond hefyd yn yr hir dymor i’n helpu ni wella ein byd. Mae’r gofodwyr sy’n byw yn y roced yn bwyta bwyd wedi ei ddiheidradu. Ydy hyn yn ffordd hir dymor o ddatrys problemau newyn ein byd? Mae archwiliad y gofod,a byw yn y gofod yn helpu gwyddonwyr ddarganfod a ydy hyn yn wir ac os gallwn ni wneud hyn gyda phob math o bwyd? Gallwn roi terfyn ar wastraff bwyd os mae hyn yn bosib. Meddyliwch- mae 31 miliwn dunnell o fwyd pob blwyddyn yn cael ei daflu a gallai’r bwyd yna fwydo gwledydd tlawd y byd.
Mae archwiliad y gofod yn ein helpu ni yn fwy nag yr ydych chi’n credu ac efallai un dydd gallwn greu Mawrth fel y Ddaear. Mae llawer o’r amhosib yn bosib oherwydd archwiliad y gofod.
Mae’n natur dynol i ymestyn, i fynd, i weld, i ddeall. Nid yw archwiliad y gofod yn ddewis, mewn gwirionedd mae’n hanfodol.

Y Sêr

BE WYDDOCH CHI AM Y SÊR UWCHBEN?

Mae syllu i’r awyr ar noson serog, glir yn brofiad sy’n gallu llenwi’r enaid â rhyfeddod a thawelwch. Mae nifer ohonom yn gyfarwydd ag enwau rhai o’r sêr ac yn gallu adnabod yr aradr neu Orion. Ond beth am y gweddill? Be wyddoch chi am y gweddill?


Polaris:

Mae'r enwau Seren y Pegwn a Seren y Pegwn Gogleddol hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer y seren hon. Mae Polaris tua 430 o flynyddoedd golau o'r ddaear a dyma'r seren fwyaf disglair yng ngyfansoddiad Ursa Minor. Mae Polaris yn system tair seren sy'n cynnwys Polaris Aa sy’n orgawr melyn a dau gydymaith sy'n llai. Enwau’r rhain ydy Polaris Ab a B. Mae’r ddwy yma yn brif ddilyniant o wyn a melyn, gyda thymereddau arwyneb tebyg i'w cymydog mawr. Polaris yw'r unig seren yn awyr y nos sy'n ymddangos yn yr un man bob nos. Mae hyn am ei bod wedi ei lleoli y pegwn gogoleddol seryddol.


Sirius:

Mae Sirius yn system seren ddeuaidd sy'n cynnwys y prif seren Sirius A, a'i gyfaill bach bach Sirius B. Mae Sirius B yn boethach na Syrius A gyda thymheredd o 25,200 K. Fodd bynnag, gan fod y seren wedi llosgi ei holl danwydd, nid oes ganddi unrhyw ffynhonnell wres fewnol. Gwelir bod system Sirius yn symud yn raddol yn agosach at gysawd yr haul, a fyddai'n arwain at fwy o ddisgleirdeb yn y 60,000 mlynedd nesaf. Mae gan Sirius ddisgleirdeb sydd 20 gwaith yn fwy na'r Haul, a hefyd tymheredd sy'n uwch na'r haul gan tua 4000 K. Mae ei faint hefyd tua 40% yn fwy na'r haul.


Alpha centauri:

Y system seren Alpha Centauri yw'r seren fwyaf disglair yn awyr y nos, ac gallwch ei gweld o'r Ddaear a dyma’r seren fwyaf disglair yn y cyfansoddiad Centaurus. Mae'r  sêr-efeilliaid yn y system (Alpha Centauri A a Alpha Centauri B) yn orbitio ei gilydd bob 80 mlynedd. Cred ymchwilwyr bod Alpha Centauri A a B wedi ffurfio tua 4.85 biliwn o flynyddoedd yn ôl, a golyga hyn eu bod tua 250 miliwn o flynyddoedd yn hŷn na'r haul.


Betelgeuse:

Dim ond 10 miliwn o flynyddoedd oed yw  Betelgeus ond y mae eisoes yn agos at ddiwedd ei hoes a disgwylir iddi ffrwydro fel supernova yn ystod y milliwn o flynyddoedd nesaf. Mae sêr màs uchel fel Betelgeuse yn llosgi eu tanwydd yn gyflym iawn, o ganlyniad maent yn bodoli am ychydig filiwn o flynyddoedd yn unig, mae sêr fel ein haul yn bodoli ers biliynau o flynyddoedd. Mae Supernovas yn cynhyrchu pigiadau marwol o ymbelydredd pelydr gama ond yn ffodus mae Betelgeuse yn rhy bell i achosi unrhyw ddifrod i'r Ddaear.


Rigel:

Mae Rigel yn orgawr glas. Amcangyfrifir ei fod ddwywaith mor boeth a’r Haul, yn fwy o faint, ac mae’n sawl gwaith yn fwy disglair. Gallwn ddweud â sicrwydd na fyddai bywyd ar y Ddaear yn bosibl pe baem mor agos at Rigel ag yr ydym ni i'n haul.


Vega:

Mae Vega wedi'i amgylchynu gan ddisg fawr o lwch, sy'n awgrymu bod y gweithgaredd ffurfio planed yn parhau i ddigwydd neu wedi digwydd yn ddiweddar. Mae Vega yn cylchdroi yn gyflym iawn, unwaith bob 12 awr a hanner o'i gymharu â'r 28 diwrnod mae'n cymryd i’r haul gylchdroi ar ei echelin. Mewn 10,000 o flynyddoedd bydd Vega yn cymryd lle Polaris fel seren y pegwn gogleddol. Yn 1850 Vega oedd y seren gyntaf erioed i'w ffotograffio.


Antares: 

Mae Antares yn enfawr ac yn goch ac yn  perthyn i'r cyfansoddiad Scorpio. Y Groegiaid a enwodd Antares. Mae’n 700 o weithiau yn fwy na diamedr yr haul. Mae’n ddigon fawr i lyncu’r blaned Mawrth. Ar hyn o bryd mae Antares tua 12 miliwn o flynyddoedd o oed ac yn agos at ddiwedd ei oes. Mae disgwyl iddo ymledu i supernova mewn miliynau o flynyddoedd.

Estroniaid

YDY’R GWIR ALLAN YNO?

Ydyn ni wir ar ein pen ein hunain? Mae’r byd yn edrych yn fawr i ni ond mewn gwirionedd mae e fel afal mewn siop. Mae cysawd yr haul yn enfawr gyda nifer o lefydd wedi cuddio o'r ddynoliaeth. Yn ein cysawd mae yna bethau o'r enw tyllau du. Gweithian nhw fel porth i gysawdau eraill. Os ewch i mewn does ddim ffordd nôl.

Oeddech chi’n gwybod bod gan bob seren yn yr awyr gysawd? Mae hyn yn golygu gall yna fod nifer o blanedau fel yr ddaear yn yr ardal Goldilocks. Defnyddir y term hwn i olygu bod y blaned y pellter perffaith o'r haul i gael dŵr ond ddim yn rhy bell i’r dŵr rewi. Lle bynnag mae dŵr mae yna fywyd!

Er mwyn cael bywyd rhaid cael dŵr, deunyddiau elfennau e.e carbon, hydrogen, ocsigen a mae’n rhaid cael amser. Dywed gwyddonwyr i'r glec fawr gymryd rhwng wyth a undeg wyth biliwn o flynyddoedd i'w greu. Mae hyn yn golygu bod bywyd yn cymryd amser.

Meddyliwch am y blaned Mawrth. Yn ôl gwyddonwyr roedd Mawrth yn ardal y Ddaear, yr ardal Goldiocks, biliynau o flynyddoedd yn ôl.  Golyga hyn roedd gan Mawrth ddŵr. Lluniwch y Daear yn eich pen. Nawr lluniwch yr holl dir gwyrdd yn goch. Dyna sut edrychai Mawrth.  Mae ein cysawd ni yn gartref i wyth planed ond Mawrth yn unig sy'n cynnal sibrydion o fywyd.  Pam? Roedd Mawrth yn cynnwys dŵr, mae’n cynnwys yr elfennau cywir a chafodd Mawrth amser. Ble aeth y dŵr i gyd? Pan symudodd Mawrth diflannodd ei atmosffer. Golyga hyn bod y dŵr wedi arnofio o'r blaned a mewn i’r tywyllwch. Darganfu droniau NASA symiau bach o ia ar y planed.

Mae bywyd yn beth od. Sut ddechreuodd bywyd? Yn anffodus does ddim ateb sydd wedi cael ei brofi. Fyddwn ni byth yn darganfod pam rydyn ni’n bodoli? Does neb yn gwybod. Yn anffodus does neb yn gwybod ar beth i edrych i  ddarganfod yr ateb.  Gall hyn gael effaith enfawr ar bobl. Mae pobl yn ofni beth dydyn nhw ddim yn gwybod neu ddeall. Gall hyn olygu yn y diwedd bydd pobl yn byw mewn pryder o'r diwrnod nesaf.

Pa ffurf gallai bywyd arall ei gymryd? Dydy dyniolaeth heb gwrdd ag unrhyw fywyd nad yw'n dod o’r blaned yma felly wyddwn ni ddim beth sydd i ddod. Ni rwystrodd hyn ddychymyg pobl fodd bynnag, er enghraifft y sioe deledu Doctor Who. Mae Doctor Who yn cynnwys estron o'r enw arglwydd amser neu ‘Time Lord’ sy’n archwilio'r holl alaethau gwahanol gan gwrdd â phob math o fywyd ar ei ffordd.

A beth am Ardal 51? Yn ôl rhai mae ardal gyfrinachol o’r enw Ardal 51 sy’n cuddio'r holl dystiolaeth estron o’r byd. Allai lle fel Ardal 51 wir fodoli? Dydyn ni ddim yn gwybod. Dywed rhai os ewch mewn i ardal 51 cewch eich lladd. Hefyd pe bai rhywbeth estron ar ein byd byddai’n rhaid i ryywun ei weld cyn iddo mynd mewn i ardal 51. Pe bai rhywun wedi gweld tystiolaeth o estroniaid pa werth fyddai cuddio’r dystiolaeth? Sut byddai lle fel ardal 51 yn aros mor gudd? Does neb yn gwybod.

Pa effaith gall estroniaid eu cael ar fywyd ar yr Ddaear? Mae’n dibynnu. Gallai bodolaeth bywyd arall olygu y gallai bodau cryfach gyda thechnoleg gwell ymosod ar y ddaear. Ar yr llaw arall gallai bywyd arall fod yn gyfeillgar a'n cynorthwyo ni i ddarganfod cyfrinachau’r bydysawd. Neu gallai'r estroniaid gadw hyd braich oddi wrthon ni, does ddim ffordd o wybod!

Os oes bywyd bydd y byd yn newid. Meddyliwch amdano fe- bydd gan ddyniolaeth rywbeth arall i’w astudio.  Yn gyntaf bydd crefydd yn newid. Beth fydd ymateb crefyddau'r byd? Bydd gan yr estroniaid ddiwylliant gwahanol i ni. Er ein bod ni’n shiglo dwylo gyda person arall gallai'r estroniaid shiglo troed. Byddai bywyd arall yn cael effaith enfawr ar fyd gwyddoniaeth. Byddwn ni’n gallu dysgu gan yr estroniaid a'u ffordd o fyw. Byddai’n newid meddylfryd y byd am byth.

Gallai'r estroniaid ddylanwadu'n enfawr arnom ni fel pobl. Gallwn ni ddysgu ffurfiau fwy effeithiol o fyw a theithio i’r gofod. Gallwn nhw newid ein byd am byth dim ond wrth drwy gyrraedd yma.

Pwysigrwydd bywyd arall yw’r ffaith eu bod nhw’n byw. Mae gan bob math o fywyd deimladau, teuluoedd a gobeithion a mae'n rhaid i ni gofio hynny yn y dyfodol. Yn ogystal mae'n bwysig cofio gallai'r estroniaid edrych yn rhyfedd i ni ond fod yn hollol ddiniwed. Cyniga hyn y foeswers i ni beidio â barnu heb reswm.

Yn y pendraw mae miloedd ar filoedd o blanedau dydyn ni fel pobl heb eu gweld eto. Ydyn ni wir ar ein pen ein hunan? Cofiwch, rydyn ni’n estroniaid hefyd!

Y Planedau

Mae sawl planed yng nghysawd ein haul. Mae 8 planed i gyd. Mae'r rhestr o blanedau isod yn dangos y planedau yn eu trefn wrth symud tuag at yr haul.

Ø Mercher

Ø Gwener 

Ø Y Ddaear

Ø Mawrth

Ø Iau

Ø Sadwrn

Ø Wranws

Ø Neifion

-----------------------

Mercher yw'r blaned agosaf at yr haul.

Mae'n blaned dwym iawn sy'n gallu cyrraedd lan hyd at 400°C yn y dydd.

Does dim dŵr ar arwyneb y blaned, ond gall fod yng nghanol y blaned.

Hefyd does dim aer ar arwyneb y blaned ond gall fod yng nghanol y blaned.

Does dim lleuad gan y blaned Mercher.

Yn ystod y nos mae'n gallu gostwng lawr i -180°C.

Does gan y blaned Mercher ddim atmosffer  sy'n golygu bod dim tywydd na gwynt yna. 

---------------------

Mae atmosffer Gwener wedi cael ei greu allan o garbon deuocsid.

Gwener yw'r blaned agosaf at y ddaear ac mae dim ond tamaid bach yn llai nag ein planed ni.

Mae glaw asid difrifol yn cwympo yna.

Mae ganddi losgfynyddoedd sydd yn gallu ffrwydro unrhyw bryd.

Does dim dŵr ar y blaned Gwener.

Does dim llawer o olau yn cyrraedd yno oherwydd mae'r cymylau yn drwchus iawn.

Nid yw'r golau sydd yn llwyddo i dreiddio yn gallu dod nôl allan felly ma'n boeth iawn ac yn gallu cyrraedd 500°C.

Does gan y blaned Gwener ddim lleuad.

----------------------

Dyma ble rydym ni'n byw!

Y Ddaear yw'r 5ed blaned mwyaf yn ein bydysawd.

Y Ddaear yw'r unig blaned yng nghysawd Yr Haul sydd yn gallu cynnal bywyd.

Mae gan y Ddaear haen o nwyon sy'n amddiffyn y blaned oddi wrth yr haul.

Mae atmosffer y Ddaear wedi cael ei lenwi gyda nitrogen, ocsigen a charbon deuocsid.

Mae gan y Ddaear 1 lleuad.

--------------------

Mae gan Mawrth y ffug enw 'Y Blaned Goch' oherwydd mae llwch coch yn ei gorchuddio.

Mae Mawrth yn dioddef o stormydd llwch enfawr sydd yn newid arwyneb y blaned trwy'r amser.

Mae gan y blaned Mawrth lawer o losgfynyddoedd gwahanol.

Mae'r llosgfynnydd mwyaf yn ein bydysawd yno. 21km o uchder a 600km ar draws y blaned.

Mae gan Mawrth haen denau iawn o garbon deuocsid sydd yn gallu gadael yr haul gyrraedd yr arwyneb.

Dydy'r blaned ddim yn gallu dal y gwres i mewn felly mae'n oer yna.

Mae'r gaeaf yn gallu cyrraedd tymheredd o -120°C ac mae'r haf yn gallu cyrraedd tymheredd o 25°C.

Mae gan Mawrth 2 leuad.

-----------------------

Iau yw'r blaned fwyaf yn ein bydysawd.

Mae e mor fawr gallwn ffitio 1300 o'r  Ddaear  ynddo.

Mae cymylau tew, lliwgar o nwyon gwenwynig iawn yn gorchuddio'r blaned.

Mae canol Iau yn greigiog, mae'n pwyso tua 20 gwaith mwy na'r Ddaear.

O amgylch y canol mae hylif hydrogen, sydd tua 1,000km o ddyfnder.

Mae cylch coch ar y blaned, y cylch yma yw corwynt sydd wedi bod yna am dros 300 mlynedd.

Mae gan Iau 53 lleuad.

------------------------

Sadwrn yw'r ail blaned fwyaf yn ein bydysawd.

Mae Sadwrn yn blaned arall sydd llawn nwyon.

Mae wedi cael ei gorchuddio gyda modrwyon sy'n ymestyn allan yn bell i'r gofod.

Mae gwyntoedd yn gallu cyrraedd 800kmya.

Mae Sadwrn yn blaned ysgafn iawn gan ei fod wedi ei chreu o fwy o hydrogen na heliwm.

Mae gan Sadwrn 53 lleuad.

-------------------------

Mae Wranws yn troi ar ei hochr. Gall hyn fod oherwydd cafodd gwrthdrawiad enfawr wrth iddi ffurfio.

Wranws oedd y blaned gyntaf a gafodd ei gweld trwy delesgop.

Mae Wranws yn cymryd 84 o'n blynyddoedd ni i deithio o amgylch yr haul. Mae'n treulio 42 blwyddyn yn y golau a wedyn 42 yn y tywyllwch.

Mae atmosffer Wranws yn cynnwys hydrogen a methan. 

Mae gan Wranws 27 lleuad.

Mae rhai o'r rhain wedi cael eu creu allan o ia.

-----------------------

Mae Neifion tua 4 gwaith yn fwy na'r Ddaear.

Neifion yw'r blaned sydd yn dioddef o'r tywydd gwaethaf yng nghysawd yr Haul.

Mae'n blaned llawn dŵr, hydrogen a methan.

Mae gan Neifion gymylau tenau hir sy'n gorchuddio'r rhan fwyaf o'r blaned.

Mae gan Neifion 13 lleuad.

Y Gofod

YR HARDDWCH MAWR EANG...

Yn yr adran hon byddwn ni'n edrych ar y gofod gan gynnig gwybodaeth i chi am y sêr, y planedau, yn holi a oes yna fywyd allan yna ac yn holi beth yw gwerth archwilio'r gofod.

 
 
 
 
 
 
This site was designed with the
.com
website builder. Create your website today.
Start Now