top of page

Pwy ydyn ni?

RYDYN NI'N GRIW O DDISGYBLION SY'N MWYNHAU YSGRIFENNU AC EISIAU CREU DEUNYDD SYDD O DIDDORDEB I BOBL IFANC!

Y criw- Cerys, Rhydian, Kirsty, Nansi, Steffan, Angharad, Carwyn, Emily, Erin, Ffion G, Ffion O, Ffion S, George, Grace, Megan C, Megan O, Nathan,

iphone

Cysylltwch â ni!

Oes gennych chi syniad am rywbeth hoffech chi i ni ei gynnwys? Cysylltwch â ni i adael i ni wybod! 

Neu anfonwch neges i ni ar ein cyfrif trydar - @c_fflach !

  • facebook
  • linkedin
  • twitter

Ein byd dirgel

Caea dy lygaid, am eiliad yn unig,

Teimla y byd anhygoel o dy gwmpas.

Am eiliad dere ar daith gyda dy ddychymyg.

Neidia i'r môr eang,

Hedfana i'r gofod pell,

Neu deithia drwy gyfaredd natur.

Mae gan ein byd gyfrinachau annisgwyl, unigryw a phrydferth,

Yn barod i'w rhannu â ti.

Mentra a dere i'w darganfod!

Harddwch Naturiol

Croeso i rhifyn y mis hwn o Fflach!
Y mis hwn ‘dyn ni’n canolbwyntio ar Harddwch Naturiol. Beth yw harddwch naturiol a lle gallwn ei weld? Wel dyna’r cwestiwn ofynon ni i’n hunain wrth lunio’r rhifyn hwn.
Yn amlwg mae harddwch i’w weld yn nhir a daear Cymru, ac wrth reswm fe benderfynon ni bod rhaid i un adran o’r rhifyn hwn ganolbwyntio ar natur. Ond ble arall welwch chi harddwch? Dyna’r cwestiwn mawr! Fe welwch chi harddwch hefyd yn ehangderau’r gofod ac felly dyna adran arall gennym ni. Fe sylwon ni bod harddwch yn nyfnderau’r môr, felly gallwch blymio i’r adran honno hefyd! Yn olaf, wrth drafod ymysg ein gilydd fe sylwon ni y gwelwch chi harddwch yng ngweithredoedd pobl, yn eu talentau, ac yn eu campweithiau. O ganlyniad adran arall yn y rhifyn hwn ydy ‘Bywyd’. 
Fel gwelwch chi,  daethon ni i’r casgliad bod harddwch naturiol o’n cwmpas ym mhobman!
Mae eich holl ffefrynnau i'w canfod yma- mae 'fi a fe' nôl, a'r saith syfrdan! Mae ambell i gyfweliad yma a digon o ffeithiau i sicrhau y gallwch chi greu argraff dda ar eich athrawon, eich ffrindiau a'ch teulu.
Porwch drwy’r adrannau amrywiol a chofiwch anfon neges at ein cyfrif trydar @c_fflach i adael i ni wybod be wnaethoch chi ei fwynhau!

FFLACH!

Rhifyn Mis Mawrth

Hafan: Welcome
Hafan: Homepage_about
Hafan: Contact
Hafan: Inner_about
Hafan: About
bottom of page