Mae rhifau Fibonacci yn gyfres o rifau sy’n dechrau fel hyn:
0,1,1,2,3,5,8,13,21,34...
Mae hefyd yn cael ei alw y rhif mwyaf prydferth yn y byd, neu gôd natur. Ond beth sydd mor brydferth am rifau cymharol gyffredin?
Fel pi, mae’n gyfres sy’n mynd ymlaen am byth, gan fod y rheol yw adio'r ddau rif sy’n dod cyn y rhif nesaf. Felly, yn yr enghraifft yma, y rhif nesaf yw 55, gan fod 21 + 34 = 55.
Mae’n ddilyniant eithaf syml yn amlwg, ond nid y rhifau eu hunain sy’n hardd. Os grewch sgwariau gyda’r hydoedd yma, mae’n creu sbiral pert.
Ond, sut mae hyn yn ymwneud â’r thema Harddwch Naturiol? Wel, mae’r sbiral hwn yn ymddangos drosodd a throsodd mewn blodau, cyrff anifeiliaid, cregyn, corwyntoedd a hyd yn oed y corff dynol, i restru rhai yn unig.
Mae enghreifftiau o’r rhif yma yn bodoli ym mhob man, ac mae’n hawdd gweld pam cafodd yr enw côd natur. Ond, yn ogystal â hyn, pan rydym yn ystyried dau rif drws nesaf i'w gilydd yn y gyfres, mae eu cymhareb yn agos iawn i’r Gymhareb Aur (‘Golden Ratio’) neu PHI. Y mwyaf yw’r pâr o rifau, yr agosaf i’r Gymhareb Aur ydyn nhw. Mae’r rhif eto yn mynd ymlaen am byth, ond yn dechrau fel:
1.618034...
Mae’r rhif yma hefyd yn bwysig ym myd natur, ac enwedig yn y corff dynol. Mesurwch y pellter o’ch ysgwydd i ddiwedd eich bysedd, ac yna rhannwch y rhif gyda’r pellter o’ch penelin i ddiwedd eich bysedd a dyfalwch pa rif sy’n ymddangos?
Ie, PHI 1.618 yw’r rhif. Y gwir yw, mae mathemateg fel hyn yn bodoli ymhob man. Mae’r rhif hyd yn oed yr un dimensiwn â chylchoedd y blaned Sadwrn. Mae gormod o esiamplau o’r rhif hwn i’w rhestru i ddweud y gwir.
Mae’n anhygoel bod y rhif yma yn bodoli a gyda chysylltiad i natur fel hyn.
Rhifau Fibonacci
Dyddiadur - Fy ymweliad â Rhosili
Wel, am ddiwrnod bendigedig! Es i i draeth Rhossili heddiw! Wrth godi bore ‘ma gwyddwn fod rhywbeth arbennig am y diwrnod, teimlwn i’r cyffro hyfryd yna yn fy stumog. Mor gyffrous! Ond pam? Yna wrth i fy llygaid arfer a’r goleuni a sbeciai drwy’r llenni cofiais i! Rhossili- Mam, Dad, Daf a fi a diwrnod o gerdded ar hyd y tywod, a chymryd lluniau i roi yn y llyfr sgrap. Neidiais o’r gwely- doeddwn i methu aros!
Gyrhaeddon ni yn ddigon di-drafferth ac wrth i Dad wirio'r tocyn parcio a mam a fi sefyll ar bwys y car, bownsiai Daf dros y lle yn belen o gyffro ac egni. Wrth syllu dros y wal gallwn weld y môr yn sgleinio fel pȇl ddisgo. Roedd yr awyr awyr mor glir ȃ chrisial ac yn lliw glas llachar, a tywynai’r haul yn felyn ac yn fawr. Dydd perffaith.
Wrth gerdded i lawr i'r traeth roedd y llwybr yn eithaf anesmwyth a serth. Wrth agosau at y traeth dechreuais deimlo'r tywod o dan fy nhraed. Yn sych, yn feddal ac yn gynnes. Parhai’r mȏr dal i sgleinio a gallwn weld Pen Pyrod yn ymestyn i ganol y môr fel draig anferth! Does dim byd tebyg iddo. Wrth gerdded draw roedd y ddwy ynys yn y golwg a’r llain hir, caregog rhyngddynt am fod y llanw ar drai. O, mae'r olygfa mor hardd! Cyflym, roedd rhaid cael llun! Bloeddiais draw, “Mam! Alla’ i gael y camera plis?” A wedyn dyna fi. Snap, clic, snap. Grêt, llun perffaith! Doedden ni heb hyd yn oed gyrraedd y traeth, ac eisoes roedd gen i lun hyfryd a golygfa yn fy mhen a fyddai yn aros yna am byth! Roedd hi’n hawdd gweld pam enwyd hwn yn un o dri traeth harddaf Ewrop!
Wrth gyrraedd y traeth teimlwn y tywod yn gynnes rhwng bysedd fy nhraed ac ymestynai golygfa wych o fy mlaen. Gallwn weld mor bell allan i'r mȏr, a'r traeth yn mynd ymlaen am byth! O droi fy mhen un ffordd gallwn weld clogwyni ac ogofau anhygoel ac yswn am fynd i’w harchwilio, ac wrth edrych y ffordd arall gallwn weld milltiroedd o draeth a phobl yn mwynhau’r traeth gogoneddus. Y tywod aur yn disgleirio, y mȏr perffaith yn dawnsio yn yr haul, a gallwn hefyd weld tŷ mawr gwyn yn sefyll yn y pellter. Mor brydferth. Ar y traeth hwn ffilmiwyd rhai golygfeydd Dr Who! Camodd David Tennant a Billie Piper ar hyd y tywod hwn! Gwnes i’n siwr bod dad yn tynnu llun ohona i a Daf!
Wrth gerdded ar hyd y tywod gallwn glywed y gwylanod yn sgrechian yn yr awyr ac weithiau yn dwyn sglodion! Hefyd roedd hi’n amlwg bod pawb ar y traeth mor hapus yn yr haul, y plant yn rhedeg o gwmpas gyda barcutiaid ac yn bwyta'u picnics. Rhaid bod yr olygfeydd a'r haul a'r hufen ia yn gwneud gwahaniaeth i hwyliau bawb, gan eu bod nhw'n edrych yn wrth eu bodd! Snap, clic, snap. Roedd rhaid i mi gael lluniau o’r holl wynebau hapus!
Wrth gerdded draw at un o'r clogwyni nawr, a mentro i un o’r ogofau, roedd hi mor dywyll o’i gymharu â thu allan, ond tybiais i y byddai hynny'n cynyddu’r cyffro… a roeddwn i’n gywir! Yn y fan hon roedd y tywod yn wlyb, ac yn oer. Ond wrth godi fy ngolygon ac edrych i fyny roeddwn i’n gegrwth! Roedd y nenfwd mor uchel ac yn edrych mor hen, ac edrychai rhai darnau o graig yn edrych fel gallen nhw gwympo bant mewn eiliad. Am eiliad oedais a meddwl, “tybed a fydden nhw’n ... na, mi fyddwn ni'n iawn siwr o fod!... Gobeithio?” Ac yna… O! Rhythais wrth weld rhyw fath o stalagmeit yn ymestyn yn anhygoel, yn syth ac yn rhyfedd! Teimla bron fel iâ, yn llysnfadeddog ac yn weddol esmwyth, ac yn eithaf oer. Snap, clic, snap. Dyna fi eto yn cofnodi fy atgofion.
Allan a fi wedyn yn ôl i’r goleuni gan grychu fy llygaid er mwyn arfer â’r haul llachar a’r awyr las. Edrychaf yn ôl draw at Ben Y Pyrod i’r de ac yna draw at Burry Holms yn y gogledd. Mae’r llanw’n ddigon isel erbyn hyn er mwyn gallu gweld olion llongddrylliadau y llongau truenus a gafodd eu dal ar y creigiau creulon. Bachais sbieinddrychau dad ac wrth syllu draw i gyfeiriad y gogledd llwyddais i ddod o hyd i olion o bren o longddrylliad yr Helvetia. Llwyddiant! Allan â’r camera unwaith eto er mwyn cofnodi hyn.
Cefais ddiwrnod mor anhygoel, doeddwn i ddim eisiau gadael yr harddwch! Mae'r lle mor brydferth ac rydych chi'n gallu gweld mor glir ym mhob man. Roeddwn i’n gywir if od mor gyffrous bore ma, a dwi wedi tynnu llwyth o luniau! Wel, gobeithio ddown ni’n ôl cyn hir, fel gallwn i weld yr harddwch hwn unwaith eto.
Tair ardal arbennig yng Nghymru
Paciwch eich bag, casglwch eich picnic a’ch `sgidiau cerdded… Dyma dri lle gwerth ymweld â nhw yma yng Nghymru fach!
Pen-Y-Fan
Pen-Y-Fan yw mynydd uchaf De Cymru, ac fe saif tua 886 metr uwchben lefel y môr. Mae’r mynydd enfawr hwn wedi ei leoli yn y Bannau Brycheiniog. Arferwyd ei adnabod fel Cadair Arthur. Does dim storiau sy’n cysylltu Brenin Arthur gyda Phen-Y-Fan yn benodol, ond mae yna stori amdano ef yn dod i gynorthwyo pobl a ddioddefodd ymosodiad gan y Twrch Trwyth, sef y baedd gwyllt yn chwedl Culhwch ac Olwen. Lladdodd Arthur arweinydd y baedd. Rowliodd corff y baedd lawr y mynydd ac i mewn i afon, sy’n cael ei adnabod fel ‘Afon Y Baedd’ y dyddiau yma.
2. Cwm Elan
Yng Nghwm Elan, mae yna fynyddoedd lle bynnag rydych chi’n cerdded. Cwm ger Rhaeadr Gwy ym Mhowys yw Cwm Elan. Mae'n ardal brydferth yng nghysgod bryniau Elenydd ac ychydig i'r gogledd o Raeadr Gwy. Mae Cwm Elan yn lle perffaith er mwyn i chi dynnu lluniau, mynd i gerdded, a lle i fynd â’ch teulu mas am y dydd. Mae Cwm Elan fel arfer yn lle da i ymweld ag ef yn yr Haf pan mae’r haul yn disgleirio ar y mynyddoedd a rhai o’r afonydd ardderchog. Mae Cwm Elan yn dennu nifer o ymwelwyr yn ystod pob blwyddyn, felly mae’n werth cael blas o’r harddwch naturiol anhygoel hwn.
3. Yr Wyddfa a Pharc Cenedlaethol Eryri
Yr Wyddfa yw’r mynydd uchaf yng Nghymru (ac yn Lloegr!), sy’n sefyll 3,560 troedfedd uwchlaw lefel y môr. Mae yna tua 1,497 milltir o lwybrau cerdded cyhoeddus yn Eryri. Mae’n y gartref i 9 cadwyn mynydd, sy’n gorchuddio tua 52% o’r Parc Cenedlaethol i gyd. Eryri yw un o’r parciau cenedlaethol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae tua 350,000 o bobl yn ceisio herio Yr Wyddfa yn flynyddol, heb sôn am y miloedd ar filoedd sy’n dod i fwynhau harddwch y parc cenedlaethol. Ac yn olaf, mae 15 mynydd yn Eryri yn dros 3000 o droedfeddi- does dim syndod bod yr ardal hardd hon yn denu miliynau o dwristiaid yn flynyddol
Ardaloedd o Harddwch Eithriadol Naturiol
WRTH I CHI WIBIO O AMGYLCH CYMRU YN Y CAR, AR EICH BEIC NEU AR Y BWS, EFALLAI I CHI WELD ARWYDDION BROWN GYDA’R LLYTHRENNAU 'AOHNE' ARNYN NHW. DO? NEU OEDD EICH LLYGAID WEDI EU GLYNNU AT SGRIN EICH FFÔN?! WEL, OS WELOCH CHI NHW ROEDDECH CHI’N DDIGON FFODUS I FOD YN AGOS AT UN O’N TRYSORAU ARBENNIG NI YNG NGHYMRU, SEF ARDAL O HARDDWCH NATURIOL EITHRIADOL.
Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE) yn cael eu dynodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Yng Nghymru, mae yna bum Ardal o Harddwch Naturol Eithriadol:
Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf i gael ei phenodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru, a hynny yn 1956. Mae’r ardaloedd wedi’u neilltuo oherwydd eu harddwch naturiol eithriadol ond yn wahanol i’r Parciau Cenedlaethol, nid yw hamdden yn un o'r rhesymau dros eu neilltuo.
Dyffryn Gwy
Ymunodd Dyffryn Gwy â theulu’r ardaloedd o harddwch eithriadol naturiol ar y degfed o Ionawr 1971. Mae Dyffryn Gwy yn ne ddwyrain Cymru ac mae rhan ohono dros y ffin yn Lloegr.
Mae llwybr Dyffryn Gwy yn ffurfio rhan o’r ardal, sef llwybr 136 milltir trwy Ganolbarth Cymru. Mae’r llwybr yn rhedeg gan fwyaf ar hyd lan yr afon Gwy a thrwy Cas-gwent yn Sir Fynwy a llethrau’r Pumlumon ym Mhowys.
Mae yna llawer o harddwch a hanes, mae Abaty Tyndeyrn a adeiladwyd ym 1131, a’r afon Gwy, lle gallwch hwylio.
Mae Dyffryn Gwy yn dirwedd sy’n bwysig yn rhyngwladol sy’n cynnwys peth o’r tirwedd isel harddaf ym Mhrydain.
O fewn yr ardal mae’r afon Gwy yn troelli i lawr drwy’r dyffryn drwy dirwedd cerrig calchfaen a choedwigoedd trawiadol. Yno ceir bywyd gwyllt anhygoel, olion archaeolegol a diwydiannol diddorol a nodweddion daearegol a gipia eich anadl.
Cafodd yr ardal ei phenodi yn AOHNE oherwydd ei thirwedd eithriadol, ei daeareg trawiadol, ei hetifeddiaeth hanesyddol gan gynnwys ceiri, cestyll Normanaidd a gweithfeydd copor, a’i bywyd gwyllt sy’n cynnwys ystlumod, adar ysglyfaethus a physgod prin.
Bryniau a Dyffryn Clwyd
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw porth golygfaol Gogledd Cymru, sy’n cynnwys rhai o olygfaoedd mwyaf godidog y DU.
Mae Bryniau Clwyd ger ffin Cymru ac Lloegr yng ngogledd ddwyrain Cymru. Dyma le prydferth iawn sy’n fôr o lliw ac llawn natur yn yr haf. Daeth yn ardal o harddwch naturiol eithriadol yng Ngorffennaf 1985.
Bryniau Clwyd yw'r gadwyn o tua 21 o fryniau yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymestyn o Landegla-yn-Iâl a Nant y Garth yn y de i gyffiniau Prestatyn yn y gogledd. Mae enwau hyfryd gan y bryniau– Moel Famau, Moel Arthur, Moel y Parc, Moel Llys y Coed a Phen y Cloddiau. Er nad ydynt yn arbennig o uchel, ceir golygfeydd braf o'u copaon. Moel Famau yw’r uchaf ohonynt a saif 544 metr uwchben lefel y môr. O’r copaon gallwch weld hyd at fynyddoedd Eryri i'r gorllewin a thros Sir y Fflint i wastadeddau Swydd Gaer a chyffiniau Lerpwl i'r dwyrain. I'r gorllewin i'r moelydd, gorwedd Dyffryn Clwyd. Mae'r rhan helaethaf wedi'i glustnodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Wrth grwydro’r dyffryn a’r bryniau gallwhc weld tystiolaeth o wareiddiad a ddyddia o’r Oes Efydd a’r Oes y Cerrig. Yn ôl archeolegwyr hwn yw un o'r llefydd pwysicaf drwy orllewin Ewrop o dystiolaeth o fywyd dyn yn yr oesau hyn.
Yn y dyffryn hwn ceir trefi hanesyddol Dinbych a Rhuthun a dyma drefi sy’n gyfoeth o dreftadaeth diwylliannol a diwydiannol.
Penrhyn Gwyr
Mae Penrhyn Gwyr yn lle hynod o brydferth ac mae’n atyniad twristaidd trwy gydol y flwyddyn gyda llawer o weithgareddau i wneud yn nhymor yr haf a thymorau eraill.
Penrhyn Gwyr oedd lle cyntaf i cael ei enwi fel Ardal o harddwch naturiol eithriadol a hynny yn 1956. Gan fod y creigiau o gerrig calch mae nifer o gilfachau ac ogofeydd yno. Roedd smyglwyr yn gwneud defnydd effeithiol ohonynt ac enwyd rhai o’r cilfachau ar ôl y gweithredoedd hyn, er enghraifft Brandy Cove! Yn Ogof Paviland darganfuwyd sgerbwd dyn o ryw 25,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae Penclawdd sydd ar yr arfordir gogleddol yn enwog am y cocos a gesglir oddi ar y traeth.
Daeth y Ffleminiaid a’r Saeson ac ymsefydlu ar rannau deheuol y penrhyn yn y ddeuddegfed ganrif yn sgîl goresgyniad y Normaniaid, ac o ganlyniad, Saesneg yw prif iaith yr ardal hon ers hynny. Fodd bynnag, arhosodd pentrefi gogledd-ddwyrain y penrhyn yn Gymraeg eu hiaith a chlywir gwahaniaeth amlwg yn acenion a ffordd o siarad y ddwy ardal hyd heddiw.
Mae gan y penrhyn gysylltiad amglwg â hanes Cymru. Bu i Gerallt Gymro ymweld â Gŵyr yn ystod ei daith trwy Gymru ac yn ei lys yn Ynysforgan ar benrhyn Gŵyr trigai Hopcyn ap Tomas, noddwr beirdd a chasglwr llawysgrifau, a gysylltir â Llyfr Coch Hergest.
Mae Gwyr yn enwog iawn am y traethau prydferth ar hyd ei arfordir ysblennydd. Enwyd traeth Rhossili yn drydydd yn y rhestr o draethau gorau Ewrop! Mae twristiaid yn heidio i’r ardal yn eu miloedd er mwyn syrffio’r tonau gwyllt, cerdded llwybr yr arfordir godidog, bwyta yn y bwytai a gwerthfawrogi’r golygfeydd anhygoel, dysgu am hanes amrywiol a chythryblus yr ardal a phrofi bywyd yn un o ardaloedd harddaf y Deyrnas Unedig, yn wir, Ewrop.
Penrhyn Llŷn
Mae Penrhyn Llŷn yn ardal llawn harddwch, yn enwedig yn y Gaeaf gyda eira gwyn yn bwrw lawr o’r cymylau ac yn eistedd ar yr olygfa eiriadol o flaen eich llygaid.
Cafodd Penrhyn Llŷn ei ddynodi’n ardal o harddwch naturiol eithriadol yn 1956. Mae’r enw—Penrhyn Llŷn- yn enw gymharol newydd.
Mae siap unigryw gan y penrhyn ac mae’n ymestyn fel braich allan i'r môr tua gogledd Bae Ceredigion. Mae'n rhan o Wynedd yng ngogledd orllewin Cymru. Yr Eifl yw'r copa uchaf a'r prif drefi yw Aberdaron, Abersoch, Cricieth, Nefyn a Phwllheli. Mae’r trefi hyny n denu llawer o dwristiaid drwy gydol y flwyddyn ond yn arbennig felly yn nhymor yr haf wrth i bobl heidio o bell ac agos i fwynhau gogoniant yr ardal hon.
Ceir nifer o draethau braf, yn arbennig ar yr arfordir deheuol, baeau creigiog ar hyd arfordir y gogledd, a bryniau gosgeiddig fel Yr Eifl A Charn Fadryn. Mae’r ardal wedi sefydlu ei hun fel lle arbennig ar gyfer gwylio natur a bywyd gwyllt, yn ogystal a manteisio ar yr aawyr dywyll er mwyn gwylio’r sêr yn y nos.
Arfordir Ynys Môn
Ardal brydferth iawn yw Ynys Mon. Mae llawer o flodau pert a rhywogaethau prin yn tyfu yno ar adegau amrywiol o’r flwyddyn. Yn ogystal mae llawer o fywyd gwyllt yn byw ar yr ynys gan gynnwys gwiwerod coch a llwyd. Yn amlwg mae’r arfordir yn gartref i lawer o adar y môr a chreaduriaid y môr.
Os ydych yn sefyll ar y pwynt uchaf yr ynys, sef Mynydd Bodafon, gallwch chi weld Y Wyddfa yn y pellter. Bryn ar Ynys Môn yw Mynydd Bodafon. Ei bwynt uchaf yw copa Yr Arwydd a saif 178m uwchlaw’r môr. Hwn yw'r bryn uchaf ar yr ynys. Mynydd Eilian yw'r ail uchaf, a saif 177 m uwchlaw lefel y môr. Pwynt uchaf y sir ydy Mynydd Tŵr gydag uchder o 220m, sydd yn ddaearyddol ar Ynys Gybi nid Ynys Môn.
Cafodd arfordir Ynys Môn ei wneud yn ardal o harddwch naturiol eithriadol yn 1945. Hyd Llwybr Arfordirol Ynys Môn yw 125 milltir o gwmpas arfordir yr ynys, ac y mae rhan o’r llwybr arfordirol yn ffurfio’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Crewyd y llwybr fel rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus a llwybrau trwy ganiatâd. Oni bai am fwlch ar gyfer Llanfachraeth ac ystâd Plas Newydd mae’r llwybr yn ffurfio cylch o amgylch yr ynys.
Felly, y tro nesaf rydych chi'n gwibio o amgylch Cymru cadwch ech llygaid ar agor ar gyfer yr arwyddion brown hynny, ac oedwch er mwyn cael cip ar rai o ogoniannau harddaf Cymru!
10 lle i weld yn y byd!
FI A FY NGHAMERA!
Mae Abby Jaynes yn ffotograffydd natur sydd wedi teithio dros y byd ar gyfer ei swydd gan ymweld â rhai o lefydd harddaf y byd. Gofynon ni iddi hi ddewis ei 10 uchaf!
Diolch am y gwahoddiad i rannu fy neg uchaf, dyma nhw!
1. Gerddi Keukenhof, Yr Iseldiroedd
Does dim ots lle a’ i yn y byd, un o fy hoff lefydd i ddychwelyd iddo ydy gerddi’r Keukenhof yn yr Iseldiroedd. Mae pobl yn gwybod am yr Iseldiroedd o gwmpas y byd am ei gaeau o diwlip yn lliwiau’r enfys, yn enwedig y rhai sydd wedi'u lleoli yn Keukenhof a’r ardal gyfagos. Ystyr y gair Keukenhof ydy gardd gegin, ac y mae pobl hefyd yn adnabod y gerddi fel Gardd Ewrop. Lleolir y parc yn Lisse, i’r de o Haarlem a’r de orllewin o Amsterdam. Plannir miliynau o fylbiau bob blwyddyn - ymwelwch yng nghanol mis Ebrill i weld y blodau yn ystod eu tymor brig!
2. Arashiyama, Kyoto, Japan
Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael y cyfle i weithio yn y goedwig anhygoel hon rhyw ddwy flynedd yn ôl. Mae harddwch cyson y goedwig bambŵ yn ardal Arashiyama yn safle gwych i’w weld. Mae un llwybr trwy'r goedwig ac mae hyn yn arwain yn araf i fyny nes i chi gyrraedd fila Okochi-Sanso. Dyma un o safleoedd enwocaf Kyoto, ac un o’r safleoedd y tynnir y mwyaf o luniau ohono. Fodd bynnag nid yw unrhyw lun yn gallu crynhoi’r teimlad o sefyll yng nghanol y goedwig bambw anhygoel hon- heb os rydych chi’n teimlo fel eich bod mewn byd arall!
3. Vatnajökull, Gwlad yr Iâ
Gelwir y rhain hefyd yn 'Rhewlif Dŵr' yn Saesneg, dyma’r rhewlif mwyaf yng Ngwlad yr Iâ a hefyd un o safleoedd mwyaf prydferth y wlad. Mae'r tirlun o dan y rhewlif yn debyg i fyd arall, yn cynnwys ogofâu iâ, cannoedd o losgfynyddoedd. Mae'n cael ei leoli yn ne-ddwyrain yr ynys ac mae'n mor fawr mae'n cynnwys 8% o'r wlad. Es i yma i dynnu lluniau ar gyfer calendr a dwi mor falch ges i’r cyfle! Gyda llaw ar fy nghalon galla i ddweud na chewch chi eich siomi os ewch chi am daith!
4. Bae Rhosili
Galla i deithio i bedwar ban byd, ond un o fy hoff lefydd yw Bae Rhosili. Lleolir Bae Rhosilli ar ben de-orllewin Penrhyn Gŵyr. Mae'r 3 milltir o draeth dywodlyd yn cael ei gefnogi gan dwyni tywod. Enillodd wobr Traeth Gorau Cymru nifer o weithiau, mae hefyd yn hawlio ei le ar restr 10 o draethau gorau y Deyrnas Unedig dros y 5 mlynedd diwethaf. Yn ogystal mae’n boblogaidd iawn gyda syrffwyr. Does dim byd yn debyg i’r traeth hwn!
5. Ynysoedd y Galápagaos, Ecwador
Hwn oedd lleoliad un o fy swyddi tramor cyntaf- ac am leoliad! Ffurfiwyd y grŵp hwn o ynysoedd yn y Môr Tawel gan losgfynyddoedd yn ffrwydro o dan y môr. Mae'r ynysoedd yn gorwedd tua 1000km o arfordir Ecwador. Fe'u hystyrir yn un o brif gyrchfannau'r byd ar gyfer gwylio bywyd gwyllt. Mae’r tiroedd ynysig yn gynefin i amrywiaeth o rywogaethau – planhigion ac anifeiliaid, a dim ond yma y maen nhw’n cael eu darganfod. Ymwelodd Charles Darwin â'r ynysoedd ym 1835. Dwi’n teimlo’n ffodus iawn fy mod i wedi cael bod yno!
6. Salar de Uyuni: Daniel Campos, Bolivia
Dyma le anhygoel o hardd! Mae’r arwyneb hwn yn gweithredu fel drych ga adleywrchu’r awyr. Hwn yw’r gloddfa halen fwyaf yn y byd ac mae’n denu miloedd o ymwelwyr pob blwyddyn ac felly’n safle twristiaeth hynod o boblogaidd. O ddifri, mae hwn yn leoliad sy’n llwyddo i gipio eich anadl!
7. Gardd Flodau Ashikaga, Siapan
Dwi wedi twyllo ychydig fan hyn a dewis ail leoliad yn Siapan, ond mae’r wlad hon mor hardd mae’n anodd peidio dewis dau leoliad! Mae’r coed anhygoel yma yn goleuo am tua tair wythnos y flwyddyn. Os ydych yn cael y siawns i weld y rhain bachwch arno- mae wir yn gyfle arbennig. Mae’r coed yn goleuo yn y nos ond maen nhw dal yn hardd o’u gweld yn ystod y dydd. Gyda’r amrywiaeth o flodau yn ychwanegu at y golygfeydd mae hwn yn lle hardd iawn.
8. Paro Taktsang: Bhutan
Mae’r adeilad yma sydd hefyd yn cael ei alw’n nyth y teigr yn sefyll 10,000 o droedfeddi o’r llawr. Os nad ydy’r adeilad hwn yn eich plesio chi fydd y golyfeydd anhygoel yn siwr o wneud!
9. Y Twll Mawr Glas, Belize
Fel gallwch ddychmygu bu’n rhaid i mi gymryd taith mewn hofrennydd er mwyn cipio llun o’r lleoliad anhygoel hwn! Mae’n cael ei adnabod am ei siap cylch a lliw glas dwfn. Mae’r twll mawr yma yn 1000 troedfedd o led ac yng nghanol creigres yn Belize. Mae’r llun hwn dynnais i yn ddigon i ddangos ei harddwch and gall unrhyw un fynd i mewn iddo i weld beth sy’n cuddio o dan y dŵr.
10. Y Cylch Arctig
Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â’r ardal anhygoel ar sawl achlysur, ar gyfer llyfrau natur, cylchgronnau gwyliau a gyda alldeithiau gwyddonol. Os ydych chi’n edrych am oleuadau’r gogledd neu wedi dod i ymweld â’r pegynnau ia chewch chi ddim eich siomi yn sicr! Mae llefydd anhygoel i’w gweld yma!
A dyna ni fy neg uchaf i- ar hyn o bryd! Dwi’n siwr bydd fy swydd yn parhau i fynd â fi i lefydd anhygoel eraill ar draws y byd!
Anifeiliaid Harddaf y Byd!
FFION SY'N TRAFOD ANFEILIAID HARDDAF Y BYD YN EI BARN HI. YDYCH CHI'N CYTUNO? ANFONWCH NEGES I ADAEL I NI WYBOD!
Rhif un: Ceffyl Friesian
Daeth y math hwn o geffyl o’r Iseldiroedd. Gallant gyrraedd uchder o 68 modfedd. Lliw'r ceffyl yw du. Yn y Canol Oesoedd defnyddiwyd y ceffylau hyn i gario marchogion arfog. Bu bron i’r rhywogaeth ddiflannu’n llwyr ond bellach maent yn cael eu magu ar gyfer cystadlaethau dressage. Mae’r math hwn o geffyl yn adnabyddus am mai dyma gymeriad masnachol Lloyds Bank.
Rhif dau: Aderyn y Si
Daw’r math hwn o aderyn o America. Maent yn fach iawn, gan amlaf 7.5–13 cm o hyd. Y rhywogaeth lleiaf yn nosbarth yr adar yw aderyn y si gwenyn sy'n 5 cm. Maen nhw'n pwyso rhwng 1.6g a 2g. Mae adar y si yn sefyll ar y gwynt trwy guro'u hadenydd 12 i 80 waith yr eiliad. Dyma’r unig grŵp o adar sy'n medru hedfan tuag yn ôl. Gallent hedfan dros 15 m yr eiliad, sef 54km yr awr. Gallan nhw fyw am tua 5 mlynedd.
Rhif tri: Yr alarch
Mae elyrch yn adar ac maent hefyd yn gysylltiedig â gwyddau a hwyaid. Gallant bwyso hyd at 12 kg ac mae ganddynt adenydd hyd at 2.8m. Gelwir y gwyryw yn cob, tra bod y fenyw yn cael ei galw'n pen. Mae'r gwryw a'r fenyw yn paru â'i gilydd drwy ei hoes fel arfer. O ganlyniad death yr alarch yn symbol ar gyfer cariad a ffyddlondeb. Cywion elyrch yw'r enw ar y rhai bach. Yn gyffredinol rydym yn ystyried elyrch i fod yn anifeiliaid gosgeiddig a phrydferth.
Natur
YR HARDDWCH RHYFEDDOL YN EIN TIR
Yn yr adran hon dewch i ddysgu am yr harddwch sydd i'w weld yn y natur sydd o'n cwmpas ym mhobman! Fan hyn cewch ddarllen am yr ardaloedd o harddwch eithriadol naturiol sydd gennym ni yng Nghymru, rhai o anifeiliaid harddaf y byd a rhai o'r llefydd dylech chi ymweld â nhw!